Llanberis: Pentref yng Ngwynedd

Pentref mawr a chymuned yng nghalon Eryri, yng Ngwynedd, yw Llanberis ( ynganiad ) neu Llanbêr.

Daw'r enw o sant Peris, er mai eglwys pentref cyfagos Nantperis oedd y sefydliad gwreiddiol. Sant o'r 6g oedd Peris. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd y boblogaeth yn 1,954 ac roedd 81% yn siarad Cymraeg yn rhugl, a 100% o'r bobl ifanc rhwng 10–15 oed yn siarad Cymraeg.

Llanberis
Llanberis: Ymwelwyr, Enwogion, Cyfrifiad 2011
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMorbegno Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1208°N 4.1286°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000069 Edit this on Wikidata
Cod OSSH572602 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Tyfodd y pentref o amgylch Chwarel Dinorwig a chwaraeodd y diwydiant llechi ond bellach y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ydy twristiaeth, Pwerdy Dinorwig a gwaith dŵr y Mynydd Trydan; mae yma hefyd ffatrioedd gan gwmniau Siemens Diagnostics a DMM. Gerllaw, saif adfeilion Castell Dolbadarn: castell a godwyd gan Llywelyn II yn y 13g. Peiniwyd y llyn a'r castell gan lawer o artistiaid gan gynnwys Richard Wilson and J.M.W. Turner.

Llanberis: Ymwelwyr, Enwogion, Cyfrifiad 2011
Hen ffotograff o tua 1890-1900

Ymwelwyr

  • Godfrey Goodman

Dewiswyd Godfrey Goodman (1583-1656), yn ddeon Rochester yn 1621, ac yn esgob Caerloyw yn 1625. Pan ddaeth Siarl I i'r orsedd yn 1625 fe'i cafodd ei hun fwy a mwy heb gydymdeimlad â'r polisi crefyddol. Rhwng 1626 a 1640 yr oedd tystiolaeth yn crynhoi a awgrymai ei fod wedi troi'n Babydd. Yn 1640 fe'i carcharwyd am wrthod torri ei enw wrth ganonau Laud, eithr fe'i rhyddhawyd pan gytunodd i wneuthur hynny. Bu yng ngharchar ddwywaith wedi hynny cyn 1643 a chymerwyd y rhan fwyaf o'i eiddo oddi arno. Yn ystod rhan o'r cyfnod 1643-7 bu'n llochesu ar eiddo (Tŷ Du) a oedd ganddo yn Llanberis.. Cafodd tref Rhuthyn lesâd o dan ei ewyllys.

Llanberis: Ymwelwyr, Enwogion, Cyfrifiad 2011 
Llun a dynnwyd yn 1912 o grwp o fyfyrwyr o Crewe ar ymweliad maes yn aros yn Ty Dŷ, Lôn Clegyr, Llanberis
  • Criw o fyfyrwyr daearyddiaeth o Crewe ydy’r bobl ieuanc o flaen y tŷ (delwedd uchod). Ymwelasant â Llanberis yn 1912 gan daro heibio’r Hen Dŷ Du ar y 14 Mehefin. Roedd yr hen dy yn gyfan pryd hynny ond yn dechrau dadfeilio yn ôl y disgrifiad o’r wythnos yn y llyfr o eiddo Arwyn Roberts "A Week’s Work in Wales". Mae’r ty^ yn sefyll o hyd ar y Clegyr.

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanberis (pob oed) (2,026)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanberis) (1,464)
  
74.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanberis) (1491)
  
73.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanberis) (304)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Llanberis: Ymwelwyr, Enwogion, Cyfrifiad 2011  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Llanberis YmwelwyrLlanberis EnwogionLlanberis Cyfrifiad 2011Llanberis Gweler hefydLlanberis CyfeiriadauLlanberis6gCyfrifiad 2001CymraegCymuned (Cymru)Delwedd:Llanberis.oggEryriGwyneddLlanberis.oggNant PerisPerisWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1912Cydymaith i Gerddoriaeth CymruGeorgiaRhodri LlywelynTrwythEagle EyeJess DaviesAneurin BevanDisturbiaGeorge WashingtonMiguel de CervantesHanes TsieinaBrysteCynnwys rhyddMarchnataPlentynWoyzeck (drama)Haydn DaviesThomas Gwynn JonesMathemategGweriniaethMangoPengwinLuciano PavarottiTorontoThe Principles of LustAlmaenegMatthew BaillieCascading Style SheetsManon RhysRhyngslafegY MedelwrFfilmCarles PuigdemontManic Street PreachersI am Number FourBananaY Weithred (ffilm)Gweriniaeth Pobl TsieinaEmyr DanielOrgasmHafanRhif Llyfr Safonol RhyngwladolRhian MorganKempston HardwickLlŷr ForwenCyfathrach rywiolBoddi TrywerynCyfrwngddarostyngedigaethMaes Awyr HeathrowRhestr afonydd CymruGwlad PwylGronyn isatomigMary SwanzyJohn Ceiriog HughesXHamsterDinasCymruUnol Daleithiau AmericaSbriwsenPubMedRhyfel yr ieithoeddIndonesegLleuwen SteffanE. Wyn JamesBenjamin NetanyahuDosbarthiad gwyddonolWinslow Township, New JerseyRhyfel Sbaen ac America🡆 More