Mae ChatGPT (Trawsnewidydd Cyn-hyfforddedig Cynhyrchiol Sgyrsiol) yn sgwrsfot a ddatblygwyd gan OpenAI ac a lansiwyd ar 30 Tachwedd 2022.
Yn seiliedig ar fodel iaith mawr, mae'n galluogi defnyddwyr i fireinio a llywio sgwrs yn unol â'r hyd, fformat, arddull, lefel manylder ac iaith a ddymunir. Ystyrir ysgogiadau ac atebion olynol er mwyn strwythuro'r testun mewn ffordd y gellir ei ddehongli a'i ddeall gan fodel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol (peirianneg ysgogiadau), ym mhob cam o'r sgwrs fel cyd-destun.
Enghraifft o'r canlynol | large language model, chatbot |
---|---|
Crëwr | OpenAI |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Tachwedd 2022 |
Dechrau/Sefydlu | 30 Tachwedd 2022 |
Yn cynnwys | ChatGPT Plus |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gweithredwr | OpenAI |
Dosbarthydd | Amazon Appstore, App Store, Google Play |
Gwefan | https://chat.openai.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erbyn Ionawr 2023, dyma oedd y feddalwedd defnyddwyr a dyfodd gyflymaf erioed, gyda dros 100 miliwn o ddefnyddwyr yn cyfrannu at dwf ym mhrisiad OpenAI i $29 biliwn. Arweiniodd dyfodiad ChatGPT at ddatblygu cynhyrchion tebyg, fel Bard, Ernie Bot, LLaMA, Claude, a Grok. Lansiodd Microsoft feddalwedd Copilot, yn seiliedig ar GPT-4 gan OpenAI. Mynegodd rai arsylwyr bryder am botensial ChatGPT a rhaglenni tebyg i ddadleoli neu wanhau deallusrwydd dynol, galluogi llên-ladrad, neu ledu camwybodaeth.
ChatGPT sy'n cael y clod am gychwyn y cyfnod presennol o ddatblygiad cyflym a digynsail ym maes deallusrwydd artiffisial.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article ChatGPT, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.