Nefyn: Tref fechan a chymuned yng Ngwynedd

Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Nefyn, sydd â phoblogaeth o tua 2,500.

Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern.

Nefyn
Nefyn: Hanes, Chwaraeon, Cyfrifiad 2011
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPorth Madryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.935°N 4.525°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000092 Edit this on Wikidata
Cod OSSH304405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Hanes

Nefyn: Hanes, Chwaraeon, Cyfrifiad 2011 
Nefyn a Morfa Nefyn o'r dwyrain

Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Llŷn. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar ôl siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed ym mwrdeistref Rydd.

Nefyn: Hanes, Chwaraeon, Cyfrifiad 2011 
Nefyn tua 1885.

Mae'r môr wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae "penwaig Nefyn" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth £4,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal.

Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r môr. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus.

Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar ôl y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn.

20fed ganrif ymlaen

Nefyn: Hanes, Chwaraeon, Cyfrifiad 2011 
Tirlithriad yn Nefyn yn 2021; gwelir corn simne tŷ ar ben y clogwyn

Ar 19 Gorffennaf 1984, Nefyn oedd canolbwynt daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Hwn oedd y dirgryniad cryfaf a gofnodwyd ar dir mawr ynys Prydain ers i gofnodion ddechrau, ond ni chafwyd llawer o ddifrod.

Ar 19 Ebrill 2021, cafwyd tirlithriad gyda darn sylweddol o'r glogwyn yn cwympo i'r môr. Collwyd y tir o waelod tai haf ar Rhodfa'r Môr, ond ni anafwyd unrhyw unigolyn.

Chwaraeon

Mae tîm pêl-droed yn Nefyn o'r enw Clwb Pêl-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna dîm wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r tîm yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'.

Mae gan y tîm dudalen Facebook.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nefyn (pob oed) (2,602)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nefyn) (1,863)
  
74.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nefyn) (1813)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nefyn) (473)
  
39.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Nefyn HanesNefyn ChwaraeonNefyn Cyfrifiad 2011Nefyn EnwogionNefyn Gweler hefydNefyn CyfeiriadauNefyn Dolenni allanolNefynBae CaernarfonCaernarfonCymuned (Cymru)EdernGwyneddMorfa NefynPenrhyn LlŷnPistyllPortin-llaenYr Eifl

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Iestyn GarlickPlwton (planed gorrach)Y Tŷ CochAthroniaethGwystlCalsugnoOrgasmAlaskaOrtadirek ŞabanContactPacistanCuster of The WestGramadeg Lingua Franca NovaThe Call of The CanyonGizella Varga SinaiTony ac AlomaAfter EarthTafodieithoedd y GymraegThe Sheriff of Fractured JawThe Gal Who Took The WestThomas Gwynn JonesTsieciaAlex HarriesThe Land That Time Forgot69 (safle rhyw)Pont y CymryIn Old ArizonaCazar Un Gato NegroRange DefendersThe Sea GullDerek BooteFort ApacheVoice of AmericaTout L'or Du MondeGroeg (iaith)David CameronHunan leddfuWelsh WhispererGwen Redvers JonesTsiecegEconomegTahitïegMathemategUnol Daleithiau AmericaCarry On ColumbusWwzzAdolf HitlerBacwnSpoilers of The WestHywel PittsFavershamMegan and the Pantomime ThiefChwarel Pen yr OrseddMeddy FordCefnfor yr IweryddGethin Jones (cyflwynydd teledu)OcsitaniaSigmund FreudGwainCavalcade of The WestBorn to The WestJac a Wil (deuawd)PlymouthLeaving Las VegasAadujeevithamWicirywogaethJoseph SmithWikipedia🡆 More