Nantlle: Pentref yng Ngwynedd

Pentref yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd yw Nantlle ( ynganiad ).

Saif ar y ffordd B4418 rhwng Talysarn a Rhyd Ddu.

Nantlle
Nantlle: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0569°N 4.225°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH509534 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Tyfodd pentref Nantlle fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi cyfagos, ac mae olion y chwareli hynny i'w gweld ymhobman o gwmpas y pentref, yn enwedig i'r gogledd. I'r de o'r pentref mae Llyn Nantlle Uchaf, sydd ag Afon Drws-y-coed yn llifo i mewn iddo ac Afon Llyfni yn tarddu ohono.

Cyfeirir at nifer o leoedd yn ardal Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".

Nantlle: Pentref yng Ngwynedd
Ysgol Baladeulyn, Nantlle.
Nantlle: Pentref yng Ngwynedd
Rhes o dai yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Ar un adeg roedd dau lyn yma, fel y gwelir yn yr enw "Baladeulyn". Gyda datblygiad y chwareli fe wacawyd y dŵr o'r llyn arall, Llyn Nantlle Isaf, a newidiwyd cwrs Afon Llyfni. Yn ffermdy Talymignedd Uchaf gerllaw'r pentref y ganwyd Margaret Evans, "Marged Fwyn Uch Ifan" (ferch Ifan), sy'n cael ei choffáu yn y pennill:

    Mae gan Marged fwyn Uch Ifan
    Delyn fawr a thelyn fechan;
    Un i ganu'n nhre Caernarfon
    A'r llall i gadw'r gŵr yn fodlon.

Lleolir Ysgol Baladeulyn yn y pentref. Mae papur bro Lleu yn gwasanaethu Nantlle.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Hanes Nantlle o Wefan Dyffryn Nantlle

Tags:

Delwedd:Nantlle.oggDyffryn NantlleGwyneddNantlle.oggRhyd DduTalysarnWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

FfrangegCynnwys rhyddY DdaearMartin LandauCaeredinMaes Awyr PerthTevyeSwolegSefydliad ConfuciusCocênAnna MarekOrbital atomigThe Jeremy Kyle ShowY Forwyn FairLee TamahoriLerpwlGwladwriaeth IslamaiddTeisen siocledGemau Olympaidd yr Haf 1920Cwmni India'r DwyrainParalelogramGoogle ChromeSeiri RhyddionBukkakeRay BradburyPaffioAmerican Dad XxxHenoFloridaSodiwmYr IseldiroeddCaerStygianWcráinGwilym BrewysVin DieselThe TransporterCamriNwyNitrogenCREBBPDrônShivaThe New SeekersNever Mind the Buzzcocks2020Cynnyrch mewnwladol crynswthUndeb Rygbi'r AlbanLabordyMacOSPortiwgalegCD14Castlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonPARK7Royal Shakespeare CompanyRhufainRobert CroftSiamanaethLlywodraeth leol yng NghymruPêl-droedAil Frwydr YpresGwyddoniaethPentocsiffylinMathemategHenry AllinghamIndiaGweriniaeth RhufainLloegrAncien RégimeMalathion🡆 More