Maentwrog: Pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Maentwrog ( ynganiad ).

Fe'i lleolir lle mae'r ffordd A496 o Harlech i Flaenau Ffestiniog yn croesi'r A487 o Borthmadog. Saif ar Afon Dwyryd ac mae'r Moelwyn Bach i'r gogledd a Llyn Trawsfynydd i'r de. Maentwrog oedd y lle uchaf y gellid ei gyrraedd ar hyd Afon Dwyryd mewn cychod o faint sylweddol.

Maentwrog
Maentwrog: Hanes, Olion hynafol, Cyfrifiad 2011
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9452°N 3.9882°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000090 Edit this on Wikidata
Cod OSSH665405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Hanes

Maentwrog: Hanes, Olion hynafol, Cyfrifiad 2011 
Afon Dwyryd, gerllaw
Maentwrog: Hanes, Olion hynafol, Cyfrifiad 2011 
Yr olygfa dros y Ddwyryd

Daw'r enw o chwedl am sant Twrog yn taflu carreg anferth o ben y Moelwynion i ddinistrio allor baganaidd. Mae'r garreg i'w gweld yng ngongl Eglwys Sant Twrog. Mae cyfeiriad at Maentwrog yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy lle'r adroddir fod Pryderi wedi ei gladdu yma ar ôl ei ladd yn ymladd â Gwydion gerllaw. Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio' ir pentref, gan groesi'r afon yn Felinrhyd.

Mae tystiolaeth am goed yn cael eu hallforio o 1739, ond daeth Maentwrog yn bwysig gyda thwf y diwydiant llechi o'r 1760au ymlaen. Hyd nes adeiladwyd Rheilffordd Ffestiniog roedd y llechi'n cael eu cario yma a'u llwytho i gychod oedd yn mynd a hwy i lawr yr afon i'w llwytho i longau. Tyfodd Maentwrog yn gyflym yn y 19g. Gerllaw'r pentref mae Plas Tan y Bwlch, unwaith yn gartref y teulu Oakley a fu'n flaenllaw yn natblygiad y diwydiant llechi yn ardal Blaenau Ffestiniog. Teulu Oakley oedd yn gyfrifol am ddatblygu a chynllunio'r pentref. Mae'r plas yn awr yn Ganolfan Astudio yn perthyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gorsaf Tan-y-Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog gerllaw hefyd. Mae dwy dafarn yma, The Grapes o'r 17g yn y pentref a'r Oakley Arms ger Plas Tan y Bwlch.

Agorwyd gorsaf drydan Maentwrog yn 1928, ac mae'n parhau i gynhyrchu trydan, gan ddefnyddio dŵr o Llyn Trawsfynydd.

Olion hynafol

Ceir cylch cytiau caeedig Coed Fali gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maentwrog (pob oed) (631)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maentwrog) (410)
  
67.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maentwrog) (409)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Maentwrog) (120)
  
41.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau llenyddol

Ceir cyfeiriad at Faentwrog mewn englyn masweddus sy'n cychwyn gyda'r linell "Anturiaf i Faentwrog".[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

Tags:

Maentwrog HanesMaentwrog Olion hynafolMaentwrog Cyfrifiad 2011Maentwrog Cyfeiriadau llenyddolMaentwrog CyfeiriadauMaentwrogA487A496Afon DwyrydBlaenau FfestiniogCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Maentwrog.oggGwyneddHarlechLlyn TrawsfynyddMaentwrog.oggMoelwyn BachPorthmadogWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Adolf HitlerEsgidMartin o ToursT. H. Parry-WilliamsEwropCamlas SuezEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023Caer bentir17 EbrillGwledydd y bydKyivAda LovelaceÁlombrigádYr Ail Ryfel BydPachhadlelaCeltaiddWalter CradockVin DieselD. H. LawrenceYsgrifau BeirniadolMediConversazioni All'aria ApertaNo Man's GoldFideo ar alwCronfa CraiCorrynPensiwnSex and The Single GirlHarri StuartRMS TitanicY GododdinBeti GeorgeYr ArianninA Night at The RoxburyNadoligThe Price of FreeLlys Tre-tŵrCalsugnoCambodiaAnna MarekSchool For SeductionBrasilElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigPerlysieuynMadeleine PauliacYmerodraethBugail Geifr Lorraine12 ChwefrorCantonegElizabeth TaylorCeniaYr AlbanRobert GwilymAmser hafConnecticutCristofferFrom Noon Till ThreeNella città perduta di SarzanaRhywogaeth mewn peryglE. Wyn JamesRhagddodiadBig JakeParthaThe Gypsy MothsCrabtree, PlymouthUndeb credydGini NewyddNapoleon I, ymerawdwr Ffrainc🡆 More