Mae Rheilffordd Llyn Padarn (Saesneg: Llanberis Lake Railway) yn rheilffordd fach gyfyng 1' 11½ (neu 597 mm) sy'n rhedeg am 2.5 milltir (neu 4 km) ar hyd lan ddwyreinol Llyn Padarn yn Eryri, Gwynedd.
Rheilffordd Llyn Padarn | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Legend
|
Mae'r rheilffordd yn dilyn rhan hen lwybr y rheilffordd 4' 0” ag arfer cludo llechu o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli.
Yng Ngorffennaf 1966, awgrymodd Lowry Porter o Southend-on-Sea reilffordd o weithdy y cwmni chwarel yng Ngilfach Ddu yn ymyl Llanberis, i Ben llyn. Roedd trafodaeth yn mynd ymlaen efo cwmni y chwarel pan caewyd y chwarel yng Ngorffennaf 1969. Prynwyd y gweithdy yng Ngilfach Ddu gan Gyngor Sir Gwynedd, efo bwriad o greu parc gwledig.
Gwerthwyd tir a chyfarpar y chwarel, a phrynodd y rheilffordd dri locomotif stêm ac un diesel. Ym Mehefin 1970, prynodd y Cyngor Sir drywydd y lein, a rhoddwyd caniatâd i'r rheilffordd newydd i'w ddefnyddio.
Adeiladwyd y Rheilffordd yn lled 1 tr 11 1⁄2 modf (597 mm) yn hytrach na'r 1 tr 10 3⁄4 modf (578 mm) a defnyddiwyd yn y chwarel. Felly roedd rhaid addasu'r locomotifau a cherbydau i gyd. Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar 28 Mai 1971, ond na ddechreuodd gwasanaeth cyhoeddus tan 19 Gorffennaf, oherwydd problemau efo cerbydau. Estynnwyd y rheilffordd i Benllyn yn y gaeaf o 1971. Estynnwyd y lein i orsaf newydd yn Llanberis, agos i Reilffordd yr Wyddfa ym Mehefin 2003.
Rhif | Enw | Adeiladwyd gan | Math | Rhif gwaith | Dyddiad | Nodau |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | Elidir | Hunslet | 0-4-0 ST | 493 | 1899 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Enid a hwyrach Red Damsel |
2 | Thomas Bach | Hunslet | 0-4-0 ST | 894 | 1904 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig; enw gwreiddiol Wild Aster |
3 | Dolbadarn | Hunslet | 0-4-0 ST | 1430 | 1922 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig |
3 | Maid Marian | Hunslet | 0-4-0 ST | 822 | 1903 | Adeiladwyd ar gyfer Chwarel Dinorwig. Gweithiodd ar Reilffordd Llyn Padarn o 1972 i 1975. Aeth i Reilffordd Llyn Tegid |
7 | Topsy | Ruston Hornsby | 4wDM | 441427 | 1961 | Adeiladwyd ar gyfer Glofa Bestwood |
8 | Twll Coed | Ruston Hornsby | 4wDM | 268878 | 1952 | Gweithiodd ar Reilffordd Lodge Hill ac Upnor |
11 | Garrett | Ruston Hornsby | 4wDM | 198286 | 1939 | |
12 | Llanelli | Ruston Hornsby | 4wDM | 451901 | 1961 |
Thomas, Cliff (2002). The Narrow Gauge in Britain & Ireland. Cyhoeddwyr Atlantic. ISBN 1-902827-05-8.
Boyd, James I.C. (1986). Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, trydedd cyfrol: The Dinorwic Quarry and Railways, The Great Orme Tramway and Other Rail Systems. Gwasg Oakwood.
Carrington D.C. and Rushworth T.F. (1972). Slates to Velinheli: The Railways and Tramways of Dinorwic Slate Quarries, Llanberis and the Llanberis Lake Railway. Cronfa Locomotif Maid Marian.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rheilffordd Llyn Padarn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.