Archif ddigidol o'r we fyd-eang yw Peiriant Wayback, a sefydlwyd gan Archif y Rhyngrwyd, sef llyfrgell nid-er-elw yn San Francisco yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r wefan yn caniatáu i'r defnyddiwr fynd “yn ôl mewn amser” a gweld sut roedd gwefannau'n edrych yn y gorffennol.
Enghraifft o'r canlynol | web archive |
---|---|
Crëwr | Brewster Kahle, Bruce Gilliat |
Rhan o | Internet Archive |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 29 Hydref 2001 |
Perchennog | Internet Archive |
Gweithredwr | Internet Archive |
Gwefan | https://web.archive.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aeth sylfaenwyr Peiriant Wayback, sef Brewster Kahle a Bruce Gilliat, ati i'w ddatblygu gyda'r nod o ddarparu "mynediad i bawb at yr holl wybodaeth" drwy gadw copïau wedi'u harchifo o dudalennau gwe sydd wedi dod i ben. Ers ei lansio ym 1996, mae dros 544 biliwn o dudalennau wedi'u hychwanegu at yr archif. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn ddadleuol wrth i rai awgrymu bod creu tudalennau wedi'u harchifo heb ganiatâd y perchennog yn gyfystyr â thorri hawlfraint mewn rhai awdurdodaethau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Peiriant Wayback, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.