Rhaglen deledu canu pop Cymraeg oedd Hob a Deri Dando.
Darlledwyd hi ar y BBC gyda'r rhaglen gyntaf yn 1964, sef yr un flwyddyn â darllediad cyntaf Top of the Pops. Roedd gan y rhaglen bwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan. Erbyn 1968 roedd sianel TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag Ysgubor Lawen. Rhoddodd Hob a Deri Dando lwyfan pwysig, hwb ac incwm i sefydlu canu pop Cymraeg, er yr ystyrir cyfres Disc a Dawn a ddechreuodd yn 1966 fel yr un a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop Cymraeg ac yna'r hyn a elwid, maes o law, y Sîn Roc Gymraeg.
Dechrau/Sefydlu | 1964 |
---|---|
Genre | cerddoriaeth boblogaidd |
Cynhyrchydd/wyr | Ruth Price |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Enwyd y gyfres gerddoriaeth ar ôl y cân werin adnabyddus Hob y Deri Dando, sydd, efallai'n awgrymu natur gerddorol, os nad geidwadol y gyfres ar adeg o newid diwylliannol anferth yng Nghymru a Phrydain.
Cynhyrchydd y gyfres oedd Ruth Price a hyrwyddwyd i wneud y rhaglen gan Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru, Meredydd "Merêd" Evans. Bu i Merêd hefyd gyflwyno'r rhaglen. Aeth ymlaen wedyn i gynhyrchu rhaglen pop gyntaf Gymraeg, Disc a Dawn yn 1966.
Mae amserlen rhaglen Rhagfyr 1964 yn nodi'r artistiaid canlynol, gan ddangos rhychwant y diddanwyr: Ivor Emmanuel, Margaret Williams, Olwen Jones, Eiri Jones, Caryl Owens, Ryan Davies, David Reynolds, Jim Howells, Justin Smith, y deuawd Aled a Reg, Derek Boote, a'r Proclaimers. Cyflwynydd arall yn y gyfres oedd y diddanwr Glan Davies (gelwir hefyd yn Glanville Davies).
Ymhlith y cantorion eraill a ymddangosodd ar y gyfres oedd:
Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Ryan Davies Hywel Gwynfryn a Glan Davies.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hob y Deri Dando (rhaglen), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.