Actores o Gymru yw Emily Victoria Tucker (ganed 2 Medi 1991).
Mae'n dod o Bontarddulais, ger Abertawe a mynychodd Ysgol Gyfun Gwyr cyn dilyn gyrfa yn actio ar y teledu. Mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin o'r adeg roedd yn wyth oed yn Saron ger Rhydaman.
Emily Tucker | |
---|---|
Ganwyd | 2 Medi 1991 Pontarddulais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Cysylltir gyda | Pobol y Cwm |
Mae wedi ymddangos yng nghyfres deledu BBC2, Belonging ac ar hyn o bryd, mae'n chwarae rhan Sioned, merch sydd wedi symud i Gwmderi o Aberystwyth ar opera sebon S4C, Pobol y Cwm.
Yn 2008, cyrhaeddodd y pum actores olaf i chwarae rhan Tiara yn y drydedd ffilm High School Musical 3. Ym mis Rhagfyr 2009, perfformiodd gân o'r sioe gerdd Chicago mewn cystadleuaeth i ddewis modelau ar gyfer calendr ar gyfer 2010-2011.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Emily Tucker, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.