Ysgol Gyfun Gŵyr

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Nhre-gŵyr, sir Abertawe, De Cymru, yw Ysgol Gyfun Gŵyr.

Ysgol Gyfun Gŵyr
Ysgol Gyfun Gŵyr
Arwyddair Gorau byw, cyd-fyw
Sefydlwyd 1984
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr Dafydd Jenkins
Cadeirydd Miss Aldyth Williams
Lleoliad Stryd Talbot, Abertawe, Sir Abertawe, Cymru, SA4 3DB
AALl Cyngor Dinas Abertawe
Disgyblion 924
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Branwen, Caradog, Dylan, Gwenllian, Llŷr, Nudd, Olwen, Peredur.
Gwefan www.yggwyr.org.uk/

Hanes

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1984. Cyn hynny, bu'n rhaid i blant Abertawe deithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Pennaeth cyntaf oedd Mr. Vivian Thomas, ac fe'i olynwyd gan Dr T. Neville Daniel. Ar ymddeoliad Dr. Daniel yn 2002, penodwyd Mrs. Katherine J. Davies yn Bennaeth ar yr ysgol. Yn dilyn secondiad o ddwy flynedd iddi i Lywodraeth Cymru, penodwyd Mr Dafydd Jenkins yn Bennaeth Gweithredol ar yr Ysgol. Gwnaed y penodiad hwn yn barhaol ym mis Ebrill 2019.

Bellach y mae'n un o ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Sefydlwyd ei chwaer ysgol, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn 2003 er mwyn ymateb i'r cynnydd aruthrol a fu yn y sector cyfrwng Gymraeg. Yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr yw Ysgol Gymraeg Bryniago, Ysgol Gymraeg Pontybrenin, Ysgol y Login Fach, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ac Ysgol Gynradd Bryn-y-mor.

Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd gan yr ysgol Ganolfan Addysgu Arbenigol er mwyn diwallu anghenion arbennig disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Agorwyd hon ym mis Medi 2009.

Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad data a ddangosai sut y gwnaeth disgyblion yr ysgol yn eu arholiadau TGAU o'u gymharu â'r targedau a osodwyd i'r disgyblion pan oeddent yn 11 oed. Daeth yr ysgol yn ail yng Nghymru gyda gwerth atodol o 17.48.

Canlyniadau Arolwg Estyn 2011

Yn Adroddiad Arolygaeth Estyn ym mis Ionawr 2011, dywedwyd bod yr ysgol yn "rhagorol" gyda disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn cyflawni'n eithriadol.

Cyn-ddisgyblion nodedig

Cyfeiriadau

Cyfeiriadau

Ysgol Gyfun Gŵyr  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Ysgol Gyfun Gŵyr HanesYsgol Gyfun Gŵyr Canlyniadau Arolwg Estyn 2011Ysgol Gyfun Gŵyr Cyn-ddisgyblion nodedigYsgol Gyfun Gŵyr CyfeiriadauYsgol Gyfun Gŵyr CyfeiriadauYsgol Gyfun GŵyrAbertaweCymraegDe CymruTre-gŵyrYsgol uwchradd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Marianne NorthY rhyngrwydIddewon AshcenasiPidyn-y-gog AmericanaiddArwel GruffyddDydd Gwener y GroglithWeird WomanMoanaAlfred JanesSant PadrigKatowiceGerddi KewY Brenin Arthur27 MawrthLuise o Mecklenburg-StrelitzEmojiBrasilThe JerkRhyw rhefrolTwo For The MoneyAwyrennegLouis IX, brenin FfraincAmwythigYr WyddgrugFlat whiteNovialDenmarcFfraincMorwynR (cyfrifiadureg)The Mask of ZorroBettie Page Reveals AllDemolition ManJess DaviesAmerican WomanGwledydd y bydAbertawePeiriant WaybackFriedrich KonciliaRihannaCecilia Payne-GaposchkinHecsagonGmail1695BlaenafonParc Iago SantThe JamTywysogCourseraFfilm bornograffigPiemonteTair Talaith CymruNatalie WoodPengwin barfogComin CreuMerthyr TudfulCERNComediGwyfynSex TapeReese WitherspoonWinchesterDeintyddiaethThe InvisibleFfynnon4 MehefinPenny Ann EarlyRhannydd cyffredin mwyafS.S. LazioCytundeb Saint-Germain🡆 More