Iddewon Ashcenasi

Grŵp ethnig a ddatblygodd drwy gyfuniad o gymunedau'r Iddewon ar wasgar yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc a'r Rheindir yn y 10g yw'r Iddewon Ashcenasi neu Iddewon Ashcenasig (Hebraeg: יְהוּדֵי אַשְׁכְּנַז trawslythreniad: Yehudei Ashkenaz, Iddew-Almaeneg: אַשכּנזישע ייִדן Ashkenazishe Yidn), neu Ashcenasim (אַשְׁכְּנַזִּים) yn y ffurf luosog Hebraeg.

Ymfudasant i'r dwyrain yn oes y Croesgadau o'r 11g i'r 13g, gan groesi'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ac ymsefydlu yn Nwyrain Ewrop yn bennaf, ar draws Gwlad Pwyl, Lithwania, a Rwsia. Yn y cyfnod hwn datblygodd yr Iddew-Almaeneg—iaith draddodiadol yr Ashcenasim—o'r Uchel Almaeneg gydag elfennau ieithyddol Iddewig, gan gynnwys yr wyddor Hebraeg. Ystyr Yehudei Ashkenaz yw "Iddewon Germania"; dros amser defnyddiwyd yr enw hwn i gyfeirio at yr Iddewon a ddefnyddiodd y ddefod Almaenig yn y synagog, mewn cyferbyniad â'r Seffardim yn Iberia a ddefnyddiodd y ddefod Sbaenaidd.

Iddewon Ashcenasi
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathIddewon Edit this on Wikidata
MamiaithIddew-almaeneg, saesneg, hebraeg, rwseg edit this on wikidata
Label brodorolאידן Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,000,000 Edit this on Wikidata
CrefyddIddewiaeth, anffyddiaeth edit this on wikidata
Rhan oIddewon Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLithuanian Jews, history of the Jews in Poland, Ukrainian Jews, history of the Jews in Germany, history of the Jews in Russia, history of the Jews in France Edit this on Wikidata
Enw brodorolאידן Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America, Israel, Rwsia, Wcráin, yr Undeb Ewropeaidd, Belarws Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn sgil yr erledigaethau gwrth-Iddewig yn Nwyrain Ewrop yn yr 17g, ffoes nifer o Iddewon Ashcenasi i Orllewin Ewrop, gan gymhathu i'r cymunedau Iddewig a oedd ohoni yn y gwledydd hynny. Ymfudodd niferoedd mawr ohonynt i Unol Daleithiau America, Canada, a gwledydd eraill yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, yn aml o ganlyniad i'r pogromau yn Ymerodraeth Rwsia. Llofruddiwyd miliynau o Iddewon Ashcenasi yn ystod yr Holocost. Yn yr 21g, mae'r Ashcenasim—tua 11 miliwn ohonynt—yn cyfri am fwy nag 80 y cant o'r holl Iddewon yn y byd. Yn Israel, mae cynifer o Ashcenasi â Seffardim yn y boblogaeth, mwy neu lai.

Cyfeiriadau

Tags:

Dwyrain EwropFfraincGermaniaGrŵp ethnigGwlad PwylHebraegIberiaIddew-AlmaenegIddewonLithwaniaRheindirRwsiaSynagogY CroesgadauYmerodraeth Lân RufeinigYr wyddor Hebraeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AvignonManon Steffan RosCaergaintHerbert Kitchener, Iarll 1af KitchenerLerpwlVin DieselSbermBanc canologPobol y CwmChatGPTSeliwlosWuthering HeightsThe Disappointments RoomCynaeafuPapy Fait De La RésistanceAligatorAmerican Dad XxxEwropSeidrDewi Myrddin Hughes2024ContactThe Merry CircusBlaengroenTimothy Evans (tenor)UsenetRia JonesBBC Radio CymruGary SpeedJac a Wil (deuawd)Hannibal The ConquerorMalavita – The FamilyDrwmTŵr EiffelTecwyn RobertsGlas y dorlanYmlusgiadEmojiBitcoinSophie WarnyBridget BevanTorfaenDal y Mellt (cyfres deledu)TlotyRhyw geneuolMervyn KingEva LallemantRwsia23 MehefinBaionaYandexComin WikimediaAfon TyneSant ap CeredigBronnoethSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigTajicistanYokohama MaryYmchwil marchnataLeigh Richmond RooseCrac cocênAli Cengiz GêmOmanMy MistressElectronegSiôr II, brenin Prydain FawrCelyn JonesPornograffi🡆 More