Offeryn cerdd sy'n cael ei taro yw drwm.
Mae'n cynnwys o leiaf un croenyn, wedi ei dynnu'n dynn dros ffrâm, sy'n cael ei guro â llaw, darn o bren neu offeryn arall i gynhyrchu sŵn. Ceir drymiau ymhob rhan o'r byd, ac ystyror mai hwy yw'r offerynnau cerdd hynaf. Mae'r sŵn a gynhyrchir gan ddrwm yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis maint y drwm a thrwch a thyndra y croenyn. Gellir defnyddio nifer o ddrymiau gwahanol i gawl amrywiaeth sŵn.
Y drwm cynharaf y gwyddys amdano yw un o Mezhirich, ger Kiev yn yr Wcrain, sy'n dyddio i tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd iddo yng ngweddillion y tŷ hynaf i'w ddarganfod, wedi ei adeiladu o esgyrn mammoth. Gwnaed y drwm o benglof mamoth.
Heblaw eu pwrpas cerddorol, gellir defnyddio drymiau i gyfathrebu dros bellter; er enghraifft yn Affrica a Sri Lanca.
Mae mathau o ddrwm yn cynnwys y conga a'r bongos.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Drwm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.