Panda Mawr

Mamal, herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta bambŵ ac sydd i'w cael ym mynyddoedd Asia yw'r Panda Mawr neu'r Panda Anferth (Lladin: Ailuropoda melanoleuca.

Panda Mawr
Panda Mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Ursidae
Genws: Ailuropoda
Rhywogaeth: A. melanoleuca
Enw deuenwol
Ailuropoda melanoleuca
David, 1869

Caeir dau is-rywogaeth, Ailuropoda melanoleuca melanoleuca ac Ailuropoda melanoleuca qinlingensis.

Daw'r enw "panda" o'r Nepaleg poonya, "Bwytawr bambŵ". Yr enw Tsineëg yw 大熊猫 (dàxióngmāo). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn arbennig yn nhalaethiau Sichuan a Yunnan. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80 kg hyd 100 kg.

Er eu bod yn perthyn i'r Carnovora, maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14 kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.

Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.

Logo'r WWF

Y panda mawr yw logo y mudiad amgylcheddol ac amddiffyn byd natur, y WWF. Dewiswyd y Panda Mawr yn dilyn ymddangosiad y panda Chi-Chi yn Sŵ Llundain gan godi cwestiynau am natur cadwraeth a chynefin naturiol anifeiliaid gwylltion. Roedd lliw du a gwyn y panda hefyd yn gweithio'n dda mewn oes pan oedd y wasg brint fel arfer dim ond mewn du a gwyn.

Tags:

AsiaBambŵLladinMamal

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Teganau rhywRhydamanCoridor yr M4Bibliothèque nationale de FranceY Deyrnas UnedigMyrddin ap DafyddCopenhagenJimmy WalesYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaYsgol Gynradd Gymraeg BryntafCytundeb KyotoU-571Martha WalterRobin Llwyd ab OwainSystem weithreduXxyRia JonesMeilir GwyneddOwen Morgan EdwardsY BeiblTamilegEsblygiadCefnforThe Witches of BreastwickGertrud ZuelzerYsgol y MoelwynWicidestunKylian MbappéLlandudnoBwncath (band)EmojiRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrPortreadLleuwen SteffanRhestr adar CymruDurlifThe Next Three DaysTre'r CeiriRhyw diogelTatenGwilym PrichardAfon MoscfaAlexandria RileyMain PageWsbecistanMynyddoedd AltaiFfilmAfon TeifiPalesteiniaidDerwyddGwlad PwylThe Salton SeaManon Steffan RosSbermP. D. JamesAngladd Edward VIITwristiaeth yng NghymruPont VizcayaThe Merry CircusSlefren fôrBIBSYSBudgieY CeltiaidThe FatherUm Crime No Parque PaulistaRhyw rhefrolComin WicimediaNewid hinsawdd🡆 More