Afon Donaw: Afon yng Nghanolbarth Ewrop

Yr afon ail hiraf yn Ewrop yw Afon Donaw neu Afon Donwy (Almaeneg: Donau; Slofaceg: Dunaj; Hwngareg: Duna; Croateg: Dunav; Serbeg a Bwlgareg: Дунав; Romaneg: Dunărea), gan mai Afon Volga yw'r un hiraf; ond Afon Donwy yw'r unig un sy'n llifo o'r gorllewin i'r dwyrain.

Mae'n codi yn y Fforest Ddu yn yr Almaen lle mae afonydd Brigach a Breg yn uno i ffurfio Afon Donaw. Mae'r afon yn 2,850 km (1,770 mi) o ran hyd ac yn llifo i'r Môr Du yn Rwmania. Mae rhai ysgolheigion yn gweld cysylltiad rhwng enw(au)'r afon a'r dduwies Geltaidd/Gymreig Dôn.

Afon Donaw
Afon Donaw: Prif afonydd, Dinasoedd, Geirdarddiad
Mathafon, afon drawsffiniol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBaden-Württemberg, Odesa Oblast Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Croatia, Serbia, Rwmania, Bwlgaria, Moldofa, Wcráin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.2219°N 29.7433°E, 48.09511°N 8.15489°E Edit this on Wikidata
TarddiadBrigach, Breg Edit this on Wikidata
AberY Môr Du Edit this on Wikidata
Dalgylch801,463 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,850 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad5,433 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLake Đerdap Edit this on Wikidata
Afon Donaw: Prif afonydd, Dinasoedd, Geirdarddiad
Siwrne'r Donaw

Mae'r afon yn ddyfrffordd ryngwladol bwysig sy'n cysylltu'r Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Croatia, Serbia, Bwlgaria, Rwmania ac Wcráin. Mae trefi mawr ar lan yr afon yn cynnwys Ulm yn yr Almaen, Fienna yn Awstria, Bratislava yn Slofacia, Budapest yn Hwngari a Beograd yn Serbia.

Mae camlas yn cysylltu'r afon ag afonydd Rhein a Main er 1992 (Camlas Rhein-Main-Donaw) ac felly mae'n bosibl mynd ar long o Rotterdam, porthladd ym Môr y Gogledd, i Sulina ar lan y Môr Du (tua 3,500 km). Yn 1987 cludwyd tua 100 miliwn tunnell o nwyddau ar Afon Donaw.

Mae basn afon Donaw yn gartref i rywogaethau pysgod fel penhwyad, penfras dŵr croyw a'r sgreten. Mae hefyd yn gartref i amrywiaeth fawr o'r cerpyn a'r styrsiwn, yn ogystal ag eog a brithyll. Ceir hefyd y mingrwn a'r llysywen, yn byw yn aber yr afon.

Prif afonydd

Y prif afonydd sy'n llifo i mewn i afon Donaw, gyda'u llif mewn medrau sgwar yr eiliad, yw:

  • Afon Iller 70 m³/e
  • Afon Lech 200 m³/e
  • Afon Altmühl 22 m³/e
  • Afon Naab 49 m³/e
  • Afon Isar 174 m³/e
  • Afon Inn 735 m³/e
  • Afon Traun 150 m³/e
  • Afon Enns 195 m³/e
  • Afon Morava (Gweriniaeth Tsiec) 110 m³/e
  • Afon Rába (Raab) 63 m³/e
  • Afon Váh 161 m³/e
  • Afon Hron 55 m³/e
  • Afon Ipeľ 22 m³/e
  • Afon Sió, o Llyn Balaton 39 m³/e
  • Afon Drava (Drafa, Drau) 577 m³/e
  • Afon Tisza 794 m³/e
  • Afon Sava 1564 m³/e
  • Afon Timiş 47 m³/e
  • Afon Morava (Serbia) 232 m³/e
  • Afon Timok 31 m³/e
  • Afon Jiu 86 m³/e
  • Afon Iskar 54 m³/e
  • Afon Olt 174 m³/e
  • Afon Jantra 47 m³/e
  • Afon Argeş 71 m³/e
  • Afon Ialomiţa 45 m³/e
  • Afon Siret 240 m³/e
  • Afon Proet 110 m³/e

Dinasoedd

  • Sigmaringen - Yr Almaen
  • Ulm - Yr Almaen
  • Ingolstadt - Yr Almaen
  • Regensburg - Yr Almaen
  • Straubing - Yr Almaen
  • Passau - Yr Almaen
  • Linz - Awstria
  • Krems an der Donau - Awstria
  • Baja - Hwngari
  • Vukovar - Croatia
  • Mohács - Hwngari
  • Bačka Palanka - Serbia
  • Novi Sad - Serbia
  • Beograd - Serbia
  • Smederevo - Serbia
  • Drobeta-Turnu Severin - Rwmania
  • Vidin - Bwlgaria
  • Lom - Bwlgaria
  • Orjachovo - Bwlgaria
  • Nikopol - Bwlgaria
  • Giurgiu - Rwmania
  • Roese - Bwlgaria
  • Călăraşi - Rwmania
  • Silistra - Bwlgaria
  • Brăila - Rwmania
  • Galaţi - Rwmania
  • Tulcea - Rwmania
  • Izmajil - Wcrain
  • Sulina - Rwmania

Geirdarddiad

Mae'n debygol mai tarddiad Celtaidd sydd i'r gair: 'danu', a hwnnw'n tarddu o'r Proto-Indo-Ewropeg 'dānu'. Yr un, o bosib a'r gair 'ton' yn Gymraeg, a'r duw Dylan Ail Don, neu ym mytholeg Iwerddon, 'Tuatha Dé Danann' ("duwies y teulu Danu"). Tardd llawer o enwau afonydd Ewropeaidd eraill o'r un gwreiddyn yn cynnwys y Dunaj, Dzvina / Daugava, Don, Donets, Dnieper, Dniestr, Dysna a Tana / Deatnu.

Daearyddiaeth

Basn draenio

Hon oedd ffin yr Ymerodraeth Rufeinig am sawl canrif. Heddiw, mae'r afon yn nadreddu drwy (neu'n cyffwrdd â ffiniau) 10 gwlad: Rwmania (29.0% o arwynebedd y basn), Hwngari (11.6%), Serbia (10.2%), Ostria (10.0%), yr Almaen (7.0%), Bwlgaria (5.9%), Slofacia (5.9%), Croatia (4.4%), yr Wcrain (3.8%), a Moldofa (1.6%). Mae ei fasn draenio yn ymestyn i naw arall (deg os cynhwysir Kosovo).

Afon Donaw: Prif afonydd, Dinasoedd, Geirdarddiad 
"Wrth i'r afon gwrdd a'r lli": aber yr afon o loeren; 2013

Yn ychwanegol at y gwledydd sy'n ffinio (gweler uchod), mae'r basn draenio hefyd yn cynnwys rhannau o naw gwlad arall: Bosnia a Herzegovina (4.6% o ardal y basn), y Weriniaeth Tsiec (2.9%), Slofenia (2.0%), Montenegro (0.9 %), y Swistir (0.2%), yr Eidal (<0.1%), Gwlad Pwyl (<0.1%), Gogledd Macedonia (<0.1%) ac Albania (<0.1%). Cyfanswm y basn draenio yw 801,463 km2 (309,447 metr sgwâr) ac mae'n gartref i 83 miliwn o bobl. Pwynt uchaf y basn draenio yw copa Piz Bernina ar ffin yr Eidal a'r Swistir, sef 4,049 metr (13,284 tr).

Rhennir Basn Afon Donaw yn dair prif ran, wedi'u gwahanu gan "gatiau" lle mae'r afon yn cael ei gorfodi i dorri trwy rannau mynyddig:

  • Basn Uchaf, o'r blaenddyfroedd i Borth Devín (Serbieg: Devínska brána).
  • Basn Canol, a elwir fel arfer yn fasn Pannonia neu Fasn Carpathia, rhwng Porth Devín a'r Gatiau Haearn (Serbieg: Đerdapska klisura). Mae'n cynnwys gwastadeddau Kisalföld ac Alföld, Hwngari.
  • Basn Isaf, o'r Gatiau Haearn i geg yr afon, gan gynnwys aber y Donaw.

Cydweithrediad rhyngwladol

Mae'r Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Diogelu Afon Danube (ICPDR) yn sefydliad sy'n cynnwys 14 aelod-wladwriaeth (yr Almaen, Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Slofenia, Hwngari, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Serbia, Bwlgaria, Romania, Moldofa, Montenegro a'r Wcráin) a'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r comisiwn, a sefydlwyd ym 1998, yn delio â basn afon Danube gyfan, sy'n cynnwys llednentydd a'r adnoddau dŵr daear. Ei nod yw gweithredu Confensiwn Diogelu Afon Danube trwy hyrwyddo a chydlynu rheoli dŵr yn gynaliadwy ac yn deg, gan gynnwys cadwraeth, gwella a'r defnydd rhesymol o'r dyfroedd, a gweithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE.

Daeareg

Er bod blaenddyfroedd y Donaw yn gymharol fach heddiw, yn ddaearegol, mae'r Donaw yn llawer hŷn na'r Rhein, y mae dalgylch ei basn yn cystadlu â hi yn ne'r Almaen. Mae gan hyn ychydig o gymhlethdodau daearegol diddorol: gan mai'r Rhein yw'r unig afon sy'n tarddu ym mynyddoedd yr Alpau ac sy'n llifo i'r gogledd tuag at Fôr y Gogledd, ceir llinell anweledig sy'n dechrau yn Piz Lunghin yn rhannu rhannau helaeth o dde'r Almaen, y cyfeirir ati weithiau fel Trothwy Ewropeaidd (the European Watershed).

Cyn yr oes iâ ddiwethaf yn y Pleistosen, cychwynnodd y Rhein ym mhen de-orllewinol y Goedwig Ddu, tra bod y dyfroedd o'r Alpau sydd heddiw'n bwydo'r Rhein yn cael eu cludo i'r dwyrain gan yr Urdonau (y Donaw gwreiddiol). Mae rhannau o wely hynafol yr afon hon, a oedd yn llawer mwy na Donaw, fel y mae heddiw, i'w gweld o hyd mewn canyons yn nhirwedd yr Alb Swabian. Ar ôl i ddyffryn Rhein Uchaf gael ei erydu, newidiodd y mwyafrif o ddyfroedd yr Alpau eu cyfeiriad a dechrau bwydo'r Rhein. Dim ond adlewyrchiad bychan o'r un hynafol yw'r Donaw uchaf heddiw.

Economeg

Dŵr yfed

Ar hyd ei chwrs, mae'r Donaw yn ffynhonnell dŵr yfed i oddeutu 20 miliwn o bobl. Yn Baden-Württemberg, yr Almaen, daw bron i 30 y cant (yn 2004) o'r dŵr ar gyfer yr ardal rhwng Stuttgart, Bad Mergentheim, Aalen ac Alb-Donau (ardal) o ddŵr wedi'i buro yn y Donaw. Mae dinasoedd eraill fel Ulm a Passau hefyd yn defnyddio rhywfaint o ddŵr o'r Donaw.

Yn Awstria a Hwngari, mae'r rhan fwyaf o ddŵr yn cael ei dynnu o ffynonellau tanddaearol a ffynhonnau, a dim ond mewn achosion prin y defnyddir dŵr o'r Donaw. Mae'r rhan fwyaf o daleithiau hefyd yn ei chael hi'n rhy anodd i lanhau'r dŵr oherwydd llygredd helaeth; dim ond rhannau o Rwmania lle mae'r dŵr yn lanach sy'n dal i yfed dŵr yr afon, yn rheolaidd.

Pysgota

Mae pwysigrwydd pysgota ar y Donaw, a oedd yn hollbwysig yn yr Oesoedd Canol, wedi dirywio'n ddramatig. Mae rhai pysgotwyr yn dal wrthi mewn rhai mannau ar yr afon, ac mae gan aber y Donaw ddiwydiant pwysig o hyd. Fodd bynnag, mae rhai o adnoddau'r afon wedi cael eu rheoli mewn modd amgylcheddol anghynaliadwy yn y gorffennol, gan arwain at ddifrod gan lygredd, newidiadau i'r sianel a datblygu seilwaith mawr, gan gynnwys argaeau ynni dŵr enfawr.

Cyfeiriadau

Tags:

Afon Donaw Prif afonyddAfon Donaw DinasoeddAfon Donaw GeirdarddiadAfon Donaw DaearyddiaethAfon Donaw Cydweithrediad rhyngwladolAfon Donaw DaearegAfon Donaw EconomegAfon Donaw CyfeiriadauAfon DonawAfonAfon VolgaAlmaenegBwlgaregCroategDônEwropFforest DduHwngaregMôr DuRomanegRwmaniaSerbegSlofacegYr Almaen

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Angharad MairMyrddinGwersyll difaAsia22JakartaCaversham Park VillageThe Butch Belgica StoryRhif cymhlygEisteddfod Genedlaethol CymruJoan EardleyCatrin o FerainTamilegAstreonamKen OwensHenry VaughanLlenyddiaethRancho NotoriousGeraint JarmanSimon BowerCysgod TrywerynBwncath (band)LlanharanGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)GwainGwyddoniadurGweriniaeth IwerddonYnys GifftanRhywogaeth mewn peryglY Chwyldro FfrengigEconomi gylchol365 DyddKama SutraEnglynSant PadrigRaajneetiMamalLucas CruikshankClustogFfloridaThe UntamedWiciadurCôd postSwahiliJuan Antonio VillacañasE. Wyn JamesBrandon, SuffolkCombe RaleighDylunioRSSChris Williams (academydd)Tonari no TotoroAlgeriaTwitterIâr ddŵrSiarl II, brenin Lloegr a'r AlbanMirain Llwyd OwenBig JakeCwpan y Byd Pêl-droed 2014The Salton SeaErwainCurveHottegagi Genu BattegagiLlyn TegidAfon TeifiRhestr o luniau gan John ThomasPrifysgol CaerdyddY Weithred (ffilm)Yr Hôb, Powys🡆 More