Mae rhyw diogel yn golygu gweithgarwch rhywiol rhwng pobl sydd wedi cymryd camau rhagofalus er mwyn amddiffyn eu hunain yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel HIV. Rhyw anniogel yw gweithgarwch rhywiol heb gamau rhagofalus, heb ddefnyddio condom yn arbennig.
Daeth ymarferion rhyw diogel yn fwy amlwg yn yr 80au hwyr o ganlyniad i'r Epidemig HIV. Mae hyrwyddo rhyw diogel yn un o amcanion addysg rhyw.
Er gall rhai arferion rhyw diogel eu defnyddio fel modd o osgoi beichiogi (atal genhedlu), nid yw'r mwyafrif o'r ffurfiau yma o atal genhedlu yn amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Yn yr un modd, mae rhai ffurfiau o arferion rhyw diogel, megis dewis partner ac ymddygiad risg isel, yn ffurfiau anneffeithiol o atal genhedlu ond dylid eu hystyried mewn pob math o gyfathrach rhywiol er mwyn lleihau risg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhyw diogel, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.