Corff mawr o ddŵr hallt a phrif ran o'r hydrosffer yw cefnfor.
Gorchuddir tua 71% o wyneb y Ddaear (tua 361 miliwn km2) gan gefnfor, corff di-dor o ddŵr sydd yn aml yn cael ei rannu'n nifer o brif gefnforoedd a moroedd llai. Mae dros hanner o'r arwynebedd hwn yn fwy na 3000 m o ddyfnder. Halwynedd cefnforol cyfartalog yw tua 35 rhan y fil, ac mae gan bron i holl ddŵr môr y byd halwynedd o fewn yr amrediad o 31 i 38 rhan y fil.
Math | gwrthrych daearyddol naturiol, corff o ddŵr, marine water body, saline water body |
---|---|
Y gwrthwyneb | cyfandir |
Yn cynnwys | seawater, môr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefnforoedd y Ddaear |
---|
(Cefnfor y Byd) |
Cytunodd y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol yn 2000 i gydnabod pum cefnfor: Cefnfor yr Arctig, Cefnfor y De, Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor India, a'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn defnyddio modelau amrywiol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cefnfor, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.