Adeiladu yw'r broses o godi adeilad, pont, ffordd neu isadeiledd arall.
Mae cynhyrchu'n wahanol, ac yn broses lle mae sawl gwrthrych tebyg yn cael ei greu; ond fel arfer, mewn adeiladwaith, un prynnwr sydd, ac un peth a gynhyrchir, a hynny'n aml yn digwydd yn y fan a'r lle yn hytrach na mewn ffatri.
Math | production, technical activity, creadigaeth |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | construction permit, groundbreaking ceremony |
Olynwyd gan | agor, occupancy permit, ribbon-cutting ceremony |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae adeialdu'n rhan bwysig o economi pob gwlad, ac yn dod a chanran uchel o'r cynnyrch mewnwladol crynswth (neu'r GDP): rhwng 6 a 9%, fel arfer. Mae'r broses o adeiladu'n dilyn yr un camau: y cwsmer yn gweld yr angen ac yn canfod ffynhonnell o arian, comisiynu pensaer i wneud y cynlluniau a goruchwylio'r gwaith adeiladu, penodi cwmni o adeiladwyr i godi'r adeilad ac yn olaf - trosglwyddo'r adeilad gorffenedig i'r cwsmer. Mae cwmniau mawr yn cyflogi arebnigwyr eu hunain e.e. bricwyr, trydanwyr, plymwyr, saeri, peintwyr.
Ceir llawer o reolau er mwyn sicrhau diogelwch a safon, a goruchwylir yr holl waith, fel arfer, gan adran gynllunio a rheoleiddio, o fewn y sir. Yn ogystal â hyn, ceir llawer o reolau Ewropeaidd, gwladol a sirol sy'n sicrhau hefyd fod yr adeilad yn cadw ei wres, yn lleihau'r impact ar yr amgylchedd e.e. yn cynhyrchu ei ynni (paneli solar, cyfnewidwyr gwres geo) a'i ddŵr ei hun (ffynnon), neu'n cynnwys uned trin carthffosiaeth a chasglu, ailgylchu a phuro dŵr ar y safle.
Mae tair sector: adeiladau (preswyl a masnachol), isadeiledd (ffyrdd, carffosiaeth, pontydd) a diwydiannol (ffatrioedd, purfeydd olew, ffermydd o felinau gwynt).
Economi | Gwariant ar adeiladwaith yn 2015 (mewn biliynau o USD. |
---|---|
(01) Gweriniaeth Pobl Tsieina | 1,849 |
(02) Unol Daleithiau | 599 |
(03) Japan | 569 |
(04) India | 333 |
(05) Ffrainc | 147 |
(06) Almaen | 143 |
(07) Singapôr | 131 |
(08) Canada | 131 |
(09) Awstralia | 115 |
(10) Rwsia | 111 |
(11) Brasil | 109 |
(12) Yr Eidal | 107 |
(13) Sbaen | 104 |
(14) Indonesia | 93 |
(15) Mecsico | 92 |
(16) De Corea | 58 |
(17) Twrci | 35 |
(18) Yr Emiradau Arabaidd Unedig | 34 |
(19) Feneswela | 34 |
(20) Yr Iseldiroedd | 34 |
(21) Gwlad Pwyl | 34 |
(22) Y Swistir | 33 |
(23) Sawdi Arabia | 32 |
(24) Iran | 29 |
(25) Colombia | 29 |
Ffynhonnell: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Adeiladu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.