Newyddiadurwraig a darlledwraig o Gymraes yw Beti George (ganwyd 19 Ionawr 1939).
Mae'n cyflwyno'r rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987.
Beti George | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1939 Coed-y-bryn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Plant | Iestyn George |
Ganwyd Jane Elizabeth Jones yng Nghoed-y-bryn ger Llandysul mewn cymuned bron yn uniaith Gymraeg. Roedd ei mam wedi bod yn forwyn ac roedd ei thad yn wehydd. Yn y tridegau nid oedd ei thad yn gallu dod o hyd i waith ac roedd rhaid iddo symud i Bendyrus a gweithio o dan ddaear. Yn ei hysgol gynradd, Beti oedd yr unig blentyn a basiodd yr arholiad yr Eleven-plus er mwyn mynd i Ysgol Ramadeg Llandysul. Hi oedd y gyntaf yn ei theulu i allu mynd i'r brifysgol ac fe aeth i astudio Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Aeth i ddysgu mewn ysgol gynradd yn Aberystwyth ac yna mewn ysgol ramadeg yn Aberhonddu am gyfnod.
Yn y saithdegau cynnar, cychwynodd ei gyrfa yn y cyfryngau pan gafodd swydd gyda'r BBC yn Abertawe fel gohebydd ar ei liwt ei hun i'r rhaglen Bore Da. Yn yr wythdegau bu'n cyflwyno rhaglen Newyddion gyda Gwyn Llewelyn.. Roedd hefyd yn un o brif gyflwynwyr y rhaglenni etholiadol yn yr wythdegau.
Bu'n cyflwyno nifer o raglenni eraill ar S4C gan gynnwys Ar y Bocs a Sbectrwm (rhaglenni yn trafod y cyfryngau), a nifer fawr o raglenni cerddorol yn cynnwys Lleisiau Cymru, Byd Cerdd, Cadwyn Carolau a Meistri Fienna.
Roedd yn un o gyflwynwyr cyfres DNA Cymru; darlledwyd rhaglen arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015 a dangoswyd cyfres o bedair rhaglen ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2015.
Mae hi'n cyflwyno rhaglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ers 1987, lle mae Beti yn sgwrsio gyda gwestai gwahanol bob wythnos yn trafod hanes eu bywyd.
Daeth Beti'n aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.
Yn 2016, derbyniodd y Wobr am Gyfraniad Eithriadol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Ym mis Awst 2017, enillodd Wobr Geraint Stanley Jones am "ei chyfraniad i gyfathrebu cerddoriaeth trwy ddarlledu".
Mae’n Gymrawd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru.
Ar ddiwedd 2020, fe'i henwebwyd ar gyfer MBE ond fe'i gwrthododd. Ar 20 Gorffennaf 2022, derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Ei phartner hyd ei farwolaeth ym mis Ebrill 2017 oedd yr awdur a'r darlledwr David Parry-Jones; roeddent yn byw yng Nghaerdydd. Ers 2009, roedd Clefyd Alzheimer wedi bod ar David, a bu Beti yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn y cyfryngau. Darlledwyd rhaglen am y clefyd o'r enw Un o Bob Tri ar S4C ac fe gyflwynodd Beti raglen The Dreaded Disease – David's Story ar Radio Wales. Cyflwynodd hefyd y rhaglen ddogfen Beti and David: Lost for Words a ddarlledwyd ar y BBC ledled gwledydd Prydain.
Mae ganddi fab, Iestyn George, sy'n byw yn Brighton, a fu'n newyddiadurwr ac yn olygydd cerddoriaeth ar gylchgronau yr NME a GQ. Mae bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Brighton.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Beti George, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.