Prifysgol ym Mangor, Gwynedd, gogledd Cymru yw Prifysgol Bangor (cyn-enwau: Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru).
Mae'n aelod-sefydliad o Brifysgol Cymru. Derbyniodd siarter Frenhinol yn 1885 ac roedd yn un o'r cyrff hynny a sefydlodd y Brifysgol ffederal. Cawsai ei hadnabod am y rhan fwyaf o'i hoes fel "Brifysgol Cymru, Bangor". Ers Medi 2007 fe'i gelwir yn Brifysgol Bangor, gan iddi wahanu oddi wrth Brifysgol ffederal Cymru.
Prifysgol Bangor | |
---|---|
Prif adeiladau Prifysgol Bangor | |
Arwyddair | Gorau Dawn Deall |
Sefydlwyd | 1884 |
Math | Cyhoeddus |
Llywydd | Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC |
Is-ganghellor | Yr Athro John G Hughes |
Myfyrwyr | 14,020 |
Israddedigion | 8,500 |
Ôlraddedigion | 2,030 |
Myfyrwyr eraill | 3,490 Addysg bellach |
Lleoliad | Bangor, Cymru |
Cyn-enwau | Prifysgol Cymru, Bangor Coleg Prifysgol Gogledd Cymru |
Lliwiau | coch a melyn |
Tadogaethau | Prifysgol Cymru |
Gwefan | http://www.bangor.ac.uk |
Pan archwiliwyd asesiadau ymchwil y coleg yn 2008, gwelwyd fod bron i 50% o'r holl waith ymchwil o fewn ei muriau yn flaenllaw - a hynny yn nhermau bydeang. Caiff ei gydnabod fel y 251fed prifysgol mwyaf blaenllaw yn y byd. Yn ôl Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion Prydain, 2012, caiff ei gyfri fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran yr addysgu ac o fewn y 15eg gorau ym Mhrydain yn y categori hwn.
Cyhoeddir Esgor, cyfnodolyn cyntaf y Gymraeg ar fydwreigiaeth, gan y brifysgol.
Sefydlwyd yn 1884 gyda 58 o fyfyrwyr. Nawr, yn yr unfed ganrif ar hugain mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r brifysgol.
Yn 2023, enwyd y brifysgol yn Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru gan y Daily Mail.
Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad
Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol
Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas
Coleg Gwyddorau Naturiol
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Prifysgol Bangor, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.