Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 24 Rhagfyr 1961) yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).
Siân James | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1961 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, telynor |
Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn.
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.
Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol. Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.
Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen. Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.
Enillodd James fynediad i'r Orsedd am ei chyfryniad i'r Celfyddydau yn Eisteddfod Meifod 2015, yn agos i'w chartref.
Cyhoeddwyd hunangofiant Siân yn 2011 yn y gyfres Cyfres y Cewri, gan Wasg Gwynedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siân James (cantores), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.