Mae trais rhywiol (hefyd treisio) yn golygu cael cyfathrach rywiol gyda rhywun heb eu cydsyniad.
Cydsyniad yn y cyd-destun hwn yw bod rhywun yn cytuno i gael rhyw o'u hewyllys rydd eu hunain, heb ddim gorfodaeth. Mae treisio yn fath o gam-drin rhywiol, ac yn y rhan fwyaf o wledydd mae'n un o'r troseddau mwyaf difrifol.
Syniad cyffredin o dreisio yw pan fydd dieithryn yn ymosod yn gorfforol ar ferch ac yn ei threisio. Er bod hynny'n digwydd, mewn llawer o achosion o dreisio mae'r treisiwr yn adnabod y dioddefwr. Yn y gorffennol, tybiwyd nad oedd modd i ŵr dreisio'i wraig; roedd tybiaeth bod cydysyniad awtomatig rhwng gŵr a gwraig, ac yn wir, yn hanesyddol, bu tueddiad i weld gwraig fel rhan o eiddo'i gŵr. Nid yw hyn yn wir bellach: mae treisio priodasol yn drosedd yng Nghymru a Lloegr ac mewn nifer gynyddol o wledydd ledled y byd.
Mae treisio yn digwydd yn erbyn merched a dynion.
Gall treisiwr ddefnyddio trais corfforol, cyffuriau neu fygythiadau er mwyn cael ei ffordd. Fodd bynnag, gall cyfathrach rywiol fod yn drais rhywiol heb fod ffrwgwd neu wrthwynebiad amlwg i'r gyfathrach, os nad oes cydsyniad. Nid yw peidio datgan cydsyniad ynddo'i hunan yn golygu diffyg cydsyniad os yw'r cyd-destun yn awgrymu'n eglur bod cydsyniad, ond mewn rhai achosion, nid yw dioddefwr mewn sefyllfa i gydsynio.
Treisio yw cael rhyw â rhywun nad yw'n gallu cydsynio.
Heblaw am effeithau corfforol uniongyrchol trais rhywiol, gan gynnwys ymosodiad corfforol o bosibl, a risg o ddal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gall effeithiau seicolegol trais rhywiol fod yn anferth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trais rhywiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.