Gwleidydd Cymreig yw Dafydd Elis-Thomas, Barwn Elis-Thomas neu'r Arglwydd Elis-Thomas (ganwyd 18 Hydref 1946).
Bu'n Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992 ac mae'n aelod o Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig. Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1992.
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 3 Tachwedd 2017 – 12 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford | ||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Ken Skates | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Dawn Bowden | ||||||||||||||||||||||||||
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 12 Mai 1999 – 11 Mai 2011 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Rosemary Butler | ||||||||||||||||||||||||||
Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Meirionnydd Nant Conwy (1999–2007) | |||||||||||||||||||||||||||
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 6 Mai 2021 | |||||||||||||||||||||||||||
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd | ||||||||||||||||||||||||||
Dilynwyd gan | Mabon ap Gwynfor | ||||||||||||||||||||||||||
Mwyafrif | 8,868 (40.1%) | ||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||
Manylion personol | |||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Dafydd Elis Thomas 18 Hydref 1946 Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin | ||||||||||||||||||||||||||
Plaid wleidyddol | Annibynnol | ||||||||||||||||||||||||||
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Plaid Cymru (1970–2016) | ||||||||||||||||||||||||||
Priod | Elen Williams Mair Parry Jones (presennol) | ||||||||||||||||||||||||||
Plant | 3 |
Yn 1999 fe'i etholwyd yn Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd dros ran Plaid Cymru. Daeth yn Llefarydd cyntaf y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Fe'i ail-etholwyd i'r Cynulliad yn Mai 2016 ond gadawodd Blaid Cymru ym mis Hydref gan aros fel aelod annibynnol hyd ei ymddeoliad cyn etholiad Mai 2021.
Mae'n Llywydd Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal.
Ganwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 – 1970 lle cafodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.
Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Gadawodd y lle hwnnw ym 1983 ac ym 1992 fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel y Barwn Elis-Thomas.
Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai galw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.
Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru 12 Ebrill 2020 nad oedd yn sefyll yn Etholiad nesaf y Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd nad oedd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu'r cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.
"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."
Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones ac maent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan fo'n gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol Sant Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".
Dyma rai o'i swyddi proffesiynol:
Mae'n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Edwards | Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1974 – 1983 | Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd | Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy 1983 – 1992 | Olynydd: Elfyn Llwyd |
Rhagflaenydd: Bernadette Devlin | Baban y Tŷ 1974 | Olynydd: Hélène Hayman |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd | Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy 1999 – 2007 | Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd | Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd 2007 – 2021 | Olynydd: Mabon ap Gwynfor |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Dim | Llywydd y Cynulliad 1999 – 2011 | Olynydd: Rosemary Butler |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley | Llywydd Plaid Cymru 1984 – 1991 | Olynydd: Dafydd Wigley |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dafydd Elis-Thomas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.