Yr Eisteddfod Ryng-Golegol yw un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru.
Caiff ei chynnal yn flynyddol yn un o brifysgolion Cymru, tua diwedd Chwefror. Mae'r myfyrwyr yn cystadlu ar ran eu prifysgol i ennill y mwyaf o farciau, a chwpan yr Eisteddfod, mewn cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref.
Cynhelir yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, a cheir gig gyda'r nos. Arhosai'r myfyrwyr o'r prifysgolion gwadd sy'n bell i ffwrdd, mewn ystafell gyffredin neu ffreutur ar y nos Wener. Dychwelant adref ar fwsiau hwyr ar ôl y gig nos Sadwrn.
Yn wahanol i Eisteddfodau traddodiadol mae hon yn fwy swnllyd, gyda nifer o gystadlaethau cellweirus megis "Bing Bong". Bydd myfyrwyr pob prifysgol yn cynhyrchu crysau-T yn arbenning i'r digwyddiad, fel arfer gyda phennill ddoniol ar y cefn.
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Eisteddfod Ryng-golegol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.