Pioden: Rhywogaeth o adar

Mae'r Bioden (Pica pica) yn aelod o deulu'r brain, y Corvidae.

Pioden
Pioden: Rhywogaeth o adar
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Pica
Rhywogaeth: P. pica
Enw deuenwol
Pica pica
(Linnaeus, 1758)
Pioden: Rhywogaeth o adar
Pica pica pica

Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop, rhan helaeth o Asia, a gogledd-orllewin Affrica. Ceir nifer o is-rywogaethau, ac mae rhai o'r farn y dylai rhai ohonynt, er enghraifft P. p. sericea o Corea, gael eu hystyried yn rhywogaethau ar wahân. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Gellir adnabod y Bioden yn hawdd, gyda'i phlu du a gwyn a'r gynffon hir. Mae'r pen, gwddf a bron yn ddu gyda gwawr wyrdd, a'r adenydd a'r gynffon hefyd yn ddu, gyda'r gweddill o'r aderyn yn wyn. Mae yn 40–51 cm o hyd. gyda'r gynffon yn 20–30 cm o hyd. Mae'r alwad hefyd yn tynnu sylw. Yn aml gwelir nifer o'r adar yma gyda'i gilydd, er nad ydynt yn casglu'n heidiau mawr.

Gall y Bioden fwyta bron unrhyw beth, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau neu gywion adar eraill, ond mae hefyd yn bwyta grawn. Mae wedi manteisio ar y nifer o anifeiliaid marw ar ochrau'r ffyrdd. Adeiledir y nyth mewn coeden. Mae'r nyth yn wahanol i nythod y rhan fwyaf o deulu'r brain gan fod tô arno, gyda twll i fynd i mewn ar un ochr.

Ystyrir y bioden fel un o'r anifeiliaid mwyaf deallus, gyda'i nidopaliwm (rhan o'r ymennydd) bron cymaint â bod dynol.

Enwau lleoedd

'Pia' yw gair rhai ardaloedd am bioden (cf. Llwynypia). Yn ôl Cronfa Melville Richards [1] yn siroedd y de mae pob enw lle yn dwyn y ffurf 'pia', pob un yn gloleddfu nodwedd tir. Ar gyrion Llandudno mae 'Bryn y Bia' gyda rhai Saeson am ei alw'n Magpie Hill! Cofnodir Brynybya yn (Thorne MS yn yr un gronfa) yn 1526 a dywed Gareth Pritchard mai 'Bryn y Bwau' oedd yr enw gwreiddiol (onid Bryn Pia heb dreiglad fyddai’n ramadegol gywir i olygu’r aderyn?), a hynny yn sgîl brwydr, o bosib' yn amser y Rhufeiniaid.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

Tags:

AffricaAsiaCoreaCorvidaeCymruEwrop

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Perthnasedd cyffredinolGweriniaeth Pobl TsieinaJuventus F.C.Marion County, OhioDe-ddwyrain AsiaMulfranErie County, OhioGwlad y BasgOrganau rhywPickaway County, OhioLlynBanner County, NebraskaNad Tatrou sa blýskaIda County, IowaWar of the Worlds (ffilm 2005)The WayMary BarbourWicipediaCarlos TévezWarsawGwanwyn PrâgPrairie County, ArkansasLewis HamiltonDamascusEglwys Santes Marged, WestminsterRhoda Holmes NichollsMontgomery County, OhioCynnwys rhyddPDGFRBButler County, NebraskaVan Buren County, ArkansasGeorgia (talaith UDA)Rhif Llyfr Safonol RhyngwladolSigwratMargaret BarnardWikipediaYork County, NebraskaTrumbull County, OhioIsabel Rawsthorne20 GorffennafJürgen HabermasUnol Daleithiau AmericaCoeur d'Alene, Idaho1192Meridian, MississippiLlundainBelmont County, OhioGwïon Morris JonesYr Ymerodraeth OtomanaiddMichael JordanVictoria AzarenkaMartin ScorseseThe Salton SeaAwdurdodBae CoprCascading Style SheetsGanglion1905Aneirin28 MawrthThe BeatlesArolygon barn ar annibyniaeth i GymruPrifysgol TartuDinas MecsicoSomething in The WaterDavid CameronHarry BeadlesCymdeithasegNuukFergus County, MontanaGweinlyfu1806BIBSYSLumberport, Gorllewin Virginia🡆 More