Aneirin: Bardd o fri yn hanner olaf y 6ed g.

Bardd a flodeuodd yn hanner olaf y 6g oedd Aneirin (c.

525 – 600), un o'r Cynfeirdd cynnar. Mae'n debyg mai Neirin oedd ffurf gynharach ei enw, sy'n tarddu o'r gair Brythoneg tybiedig *naer sydd efallai'n gytras â'r gair Gwyddeleg nár (naill ai "nobl" neu "wylaidd""), yn ôl Ifor Williams. Ef yw awdur Y Gododdin, cyfres o englynion arwrol a gedwir yn Llyfr Aneirin. Mae'r enw personol Cymraeg Aneurin yn ffurf ddiweddarach ar yr enw 'Aneirin'.

Aneirin
FfugenwNeirin Edit this on Wikidata
Ganwyd525 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw600 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Historia Brittonum

Yn ôl Historia Brittonum (tua 830), testun Lladin a briodolir weithiau i Nennius, roedd Aneirin yn enwog am ei ganu yn yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr heddiw), ynghyd â'i gyfoeswr Taliesin a Chynfeirdd eraill:

    Yn yr amser hwnnw ymladdai Eudeyrn yn ddewr yn erbyn cenedl y Saeson. Felly hefyd yr oedd Talhaearn Tad Awen yn enwog ar gân; a hefyd y bu Aneirin a Thaliesin a Blwchfardd a Chian, a elwid "Gwenith Gwawd", i gyd yn enwog am eu canu.

Tystiolaeth Y Gododdin

Aneirin: Historia Brittonum, Tystiolaeth Y Gododdin, Y Trioedd a gwaith y beirdd 
Tudalen ffacsimili o Lyfr Aneirin (tua 1265), argraffwyd yn 1868

Priodolir y gerdd arwrol hir Y Gododdin iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd"). Mae'r ffaith fod y gerdd yn coffhau arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin, yn awgrymu bod Aneirin yn perthyn i'r ardal honno. Ceir cyfeiriad at farwolaeth Aneirin mewn pennill o'r Gododdin sy'n amlwg yn ychwanegiad diweddarach i'r testun:

er pan aeth daear ar aneirin. / nu neut ysgaras nat a gododdin.
("Er pan roddwyd daear ar Aneirin / mae Barddoniaeth wedi gadael y Gododdin").

Yn yr un pennill cyfeirir at 'Guarchan mab dwywei' ("Cân mab Dwywei") ac awgryma'r cyd-destun fod hyn yn cyfeirio at Aneirin. Yn yr hen achau Cymreig mae Dwywei yn chwaer i Gwallog mab Llëenog (brenin Elmet, efallai); awgryma Ifor Williams fod Aneirin yn nai Gwallog ac felly'n frawd i Ddeiniol Sant. Mae cyfeiriad arall yn y Gododdin yn cyplysu Aneirin â Thaliesin:

Mi na vi aneirin
ys gwyr talyessin
ovec kywrenhin
neu chein(t) e ododin.

O'r Awen daw y Gododdin yn hytrach nag o Aneirin ei hun ("Fi-nid fi, Aneirin - mae Taliesin nerthol ei ysbrydoliaeth yn gwybod hyn - fe genais i'r Gododdin").

Y Trioedd a gwaith y beirdd

Coffheir Aneirin yn Trioedd Ynys Prydain fel Aneirin Gwawdrydd Mechdeyrn Beirdd, sef "Aneirin Rhwydd-ei-farddoni, Brenin y Beirdd" (Triawd 33, 34). Mae testun Triawd 33 yn llwgr, ond yn Triawd 34 dywedir bod Aneirin wedi cael ei ladd gan Heiddyn â bwyall: Bvyallavt Eidyn ym pen Aneiryn yw un o Teir Anvat Vwyallavt Enys Prydein ("Tri Thrawiad Bwyall Anffodus Ynys Prydain"). Yn y gerdd Anrec Uryen (13g efallai) ceir fformiwla cyffelyb i'r hwnnw yn y Trioedd: Aneirin gwawdryd awenyd.

Ceir sawl cyfeiriad ato hefyd yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, e.e. Dafydd Benfras sy'n dymuno bendith yr Awen

I ganu moliant mal Aneirin gynt,
Dydd y cant Ododin.

Serch hynny mae'r cyfeiradau ato yn gymharol brin mewn cymhariaeth â'r rhai niferus at Daliesin a Myrddin.

Llyfryddiaeth

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Ail arg. diwygiedig, Caerdydd, 1978). ISBN 0-7083-0690-X
  • N.G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill (Caerdydd, 1995). ISBN 0-7083-1304-3
  • John Morris (gol.), Nennius[:] British History and Welsh Annals (Llundain, 1980). ISBN 0-85033-297-4
  • A.H. Jarman (gol.), Aneirin: Y Gododdin (Llandysul).
  • Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1961).

Cyfeiriadau

Dolenni allanol


Tags:

Aneirin Historia BrittonumAneirin Tystiolaeth Y GododdinAneirin Y Trioedd a gwaith y beirddAneirin LlyfryddiaethAneirin CyfeiriadauAneirin Dolenni allanolAneirin6gAneurinBarddBrythonegCynfeirddGwyddelegIfor WilliamsLlyfr AneirinY Gododdin

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

NeymarXHamsterCamlas SuezNasareth (Galilea)Charles Edward StuartAaron RamseyMediAmwythigFfrancodPornoramaSaddle The WindDafydd ap SiencynMamma MiaCombrewTabl cyfnodolTŷ unnosIago III, brenin yr AlbanRobert III, brenin yr AlbanBangorE. Wyn JamesGini NewyddOwain WilliamsCeri Wyn JonesChirodini Tumi Je AmarTîm pêl-droed cenedlaethol CymruErwainMorysiaid MônNaturBysISO 3166-1Rule BritanniaYr Apostol PaulGlyn CeiriogMihangelThe Disappointments RoomFfilmYnys GifftanNeonstadtEglwys-bachMyrddinMartin o ToursAbertawe (sir)Abaty Ystrad FflurCamlesi CymruT. H. Parry-WilliamsHentaiBwncath (band)PeulinNew Brunswick, New JerseyCymbriegLlanfihangel-ar-ArthInstitut polytechnique de ParisJim DriscollDafydd Dafis (actor)NovialDriggDydd Iau DyrchafaelEnglynAwstraliaNantwichAnna MarekYr Hôb, PowysTitw tomos lasThe Road Not TakenCatrin o FerainNo Man's GoldGwyddbwyllGŵyl Gerdd DantKama SutraCoch y Berllan🡆 More