Cymdeithaseg

Astudiaeth cymdeithas a gweithredoedd cymdeithasol bodau dynol yw cymdeithaseg.

Yn gyffredinol mae'n ymwneud â rheolau a phrosesau cymdeithasol sy'n cysylltu a gwahanu pobl nid yn unig fel unigolion, ond fel aelodau cymunedau, grwpiau, a sefydliadau, ac yn cynnwys astudiaeth o drefniadaeth a datblygiad bywyd cymdeithasol dynol. Mae ymchwil cymdeithasegol yn amrywio o ddadansoddiad cysylltiadau byrion rhwng unigolion dienw ar y stryd i astudiaeth prosesau cymdeithasol byd-eang. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithaswyr yn gweithio mewn un arbenigedd neu fwy.

Mae'r gair cymdeithaseg yn tarddu o'r olddodiad "-eg" sy'n golygu "astudiaeth", a'r gair "cymdeithas" (sef, mewn ystyr llac, "pobl"). Gwyddor cymdeithas sy'n cynnwys astudiaeth bywydau cymdeithasol pobl, grwpiau, a chymdeithasau yw e, a ddiffinir weithiau fel astudiaeth rhyngweithiadau cymdeithasol. Fel disgyblaeth academaidd mae cymdeithaseg yn weddol ifanc – cafodd ei datblygu yn y 19g.

Oherwydd bod cymdeithaseg yn bwnc mor eang, gall fod yn anodd i'w diffinio, hyd yn oed i gymdeithaswyr proffesiynol. Un ffordd ddefnyddiol i ddisgrifio'r ddisgyblaeth yw fel clwstwr o is-feysydd sy'n astudio agweddau gwahanol ar gymdeithas. Er enghraifft, mae haeniad cymdeithasol yn astudio anghyfartaledd a'r strwythur dosbarth; mae demograffeg yn astudio newidiadau mewn meintiau a mathau poblogaethau; mae troseddeg yn astudio ymddygiadau troseddol; mae cymdeithaseg wleidyddol yn astudio llywodraeth a'r gyfraith; ac mae cymdeithaseg hil a chymdeithaseg rhyw yn astudio adeiladwaith hiliau a rhywiau yn ogystal ag anghyfartaledd hiliol a rhywiaethol yng nghymdeithas. Mae is-feysydd cymdeithasegol dal i ymddangos – megis dadansoddiad rhwydwaith – ac mae nifer ohonynt yn groes-ddisgyblaethol eu natur.

Mae nifer o gymdeithaswyr yn gwneud ymchwil defnyddiol y tu allan i'r academi. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo addysgwyr, deddfwyr, gweinyddwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, a phobl sydd â diddordeb yn natrys problemau cymdeithasol a ffurfio polisi cyhoeddus.


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg

Tags:

Bod dynolCymdeithasCymunedGlobaleiddioGrŵp (cymdeithaseg)Unigolyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tân yn LlŷnAlgeriaYr Ynysoedd DedwyddBeach Babes From BeyondChirodini Tumi Je AmarNickelodeonCarl Friedrich GaussAfter Porn Ends 2Spring SilkwormsCysgod TrywerynHafanBig BoobsEginegYsgol Syr Hugh OwenLloegrSeneddMecsicoSex and The Single GirlAmaethyddiaethJim DriscollMegan Hebrwng MoethusMamma MiaPeulinElizabeth TaylorY CroesgadauYsgrifau BeirniadolLerpwlComin WicimediaY GymanwladLa Ragazza Nella NebbiaEmmanuel MacronMudiad dinesyddion sofranUrdd Sant FfransisJess DaviesBBC Radio CymruEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023CristofferMihangelWashington, D.C.The Tin StarSorgwm deuliwApat Dapat, Dapat ApatPafiliwn PontrhydfendigaidBydysawd (seryddiaeth)CapreseGramadegDyledNi LjugerYstadegaethTywysog CymruCaveat emptorSisters of AnarchyUndeb Chwarelwyr Gogledd CymruVolkswagen TransporterAwstCasi WynThe Heart of a Race ToutBancCorff dynolDe OsetiaYn y GwaedPerlysieuynMirain Llwyd OwenAled a Reg (deuawd)Grandma's BoyBeilïaeth JerseySemenBysThe Trouble Shooter🡆 More