Cyfres deledu yn tair rhan yw The Way, a grëwyd gan James Graham, Michael Sheen ac Adam Curtis.
Gwnaeth Sheen cyfarwyddu o sgript Graham. Mae’r gyfres yn digwydd yn bennaf ym Mhort Talbot yn y 2020au, lle bu terfysgoedd o ganlyniad i broblemau yn y gwaith dur. Nid oedd y beirniaid yn hoffi'r rhaglen ar y cyfan.
Ym mis Chwefror 2023 cyhoeddwyd bod y BBC ar fwrdd y prosiect a ysgrifennwyd gan James Graham ac a gyfarwyddwyd gan Michael Sheen, a grëwyd gan Sheen a Graham gydag Adam Curtis . Derek Ritchie yw cynhyrchydd a Bethan Jones yw cynhyrchydd gweithredol i Red Seam, a Rebecca Ferguson i'r BBC. Mae ITV Studios yn ddosbarthwr rhyngwladol a darparwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Digwyddodd y ffilmio yn Neuadd y Sir, Trefynwy, ym mis Mai 2023. Digwyddodd y rhan fwyaf o'r ffilmio ym Mhort Talbot, rhwng mis Ebrill a misMehefin 2023. Ffilmiwyd golygfeydd eraill yn Abertawe a'r Fenni.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article The Way, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.