Tref ddiwydiannol a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Port Talbot.
Saif ar lan Afon Afan ar ochr dwyreiniol Bae Abertawe. Mae Caerdydd 44.9 km i ffwrdd o Bort Talbot ac mae Llundain yn 256.1 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe, sy'n 12 km i ffwrdd.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 37,276 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.58°N 3.81°W |
Cod SYG | W04001027 |
Cod OS | SS755895 |
Cod post | SA12, SA13 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | David Rees (Llafur) |
AS/au | Stephen Kinnock (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).
Cnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr orllewinol Afon Afan, yn ogystal â phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes. Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gydag agoriad y dociau newydd ar ochr ddwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd. Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre. Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref a hefyd enw'r dref gyfan. Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot. Enw amgen yw Porth Afan.
Mae'r dref wedi bod yn enwog am ei dociau a gweithio metel, yn enwedig y gwaith dur enfawr sydd ar ochr ddwyreiniol y dref.
Gwlad | Dinas |
---|---|
Ffrainc | Bagneux |
Yr Almaen | Heilbronn |
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Port Talbot, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.