Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig.
Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn, ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.
Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain." Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru". Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru. Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab.
Fe arweiniodd Owain Glyndwr wrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.
Llun | Enwau | Teyrnas gwreiddiol | Teitl a nodiadau | Blynyddoedd â thystiolaeth | Manylion marw |
---|---|---|---|---|---|
Defnyddiwyd y term Brenin Cymru neu Brenin y Brythoniaid cyn y cyfnod hwn | |||||
Gruffudd ap Cynan | Gwynedd | Tywysog...y Cymry oll | 1136 (Yn ôl Brut y Tywysogion) | Bu farw yn 1137 yn 81-82 mlwydd oed. | |
Owain ap Gruffudd Owain Gwynedd | Gwynedd | Tywysog Cymru Tywysog y Cymry; y person cyntaf i ddefnyddio'r arddull hon i ddynodi annibyniaeth, sofraniaeth a goruchafiaeth dros lywodraethwyr brodorol eraill | ~1165 | Bu farw yn 1170 yn 69-70 mlwydd oed. | |
Rhys ap Gruffydd Yr Arglwydd Rhys | Deheubarth | Tywysog Cymru | 1165 1184 1197 | Bu farw yn 1197, yn 65 mlwydd oed. | |
Llywelyn ap Iorwerth Llywelyn Fawr | Gwynedd | Tywysog Cymru Cyfeirir ato gan groniclwyr Cymraeg a Saesneg fel "Tywysog Cymru". Daliodd "dywysogaeth" Cymru ond defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac arglwydd yr Wyddfa", gydag Aberffraw yn awgrymu goruchafiaeth dros Gymru gyfan a gwrogaeth gan bob Brenin arall | 1240 (Yn ôl Brut y Tywysogion) | Bu farw yn 1240 yn 66-67 mlwydd oed. | |
Dafydd ap Llywelyn | Gwynedd | Tywysog Cymru | 1245 | Bu farw yn sydyn yn 1246, yn 33 mlwydd oed. | |
Llywelyn ap Gruffudd Llywelyn ein Llyw Olaf | Gwynedd | Tywysog Cymru | 12551258, 1262, 1267 | Lladdwyd gan filwyr o Loegr dan gochl trafodaethau heddwch ar 11 Rhagfyr 1282 yn 59 oed. Parêdiwyd ei ben ar bolyn o amgylch Llundain a'i roi ar dwr Llundain. | |
Dafydd ap Gruffydd | Gwynedd | Tywysog Cymru | 1282, 1283 | Llusgwyd drwy'r stryd gan geffyl cyn cael ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteri yn Amwythig ar 3 Hydref 1283 ar ôl cael ei ddal gan filwyr Lloegr. Rhoddwyd ei ben ar bolyn wrth pen ei frawd. | |
Rheolaeth Saesnig yn dechrau ar ôl lladd Llywelyn & Dafydd ap Gruffydd | |||||
Madog ap Llywelyn | Gwynedd | Tywysog Cymru | 1294 | Cadwyd yn garcharor yn Llundain | |
Owain ap Tomas Owain Lawgoch | Gwynedd | Tywysog Cymru | 1363 | Llofruddiwyd Gorffennaf 1378 | |
Owain ap Gruffydd Owain Glyndŵr | Powys, Deheubarth, Gwynedd | Tywysog Cymru | 1400 | Bu farw 1415, yn 55-56 mlwydd oed ac fe gladdwyd yn gyfrinachol. |
Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru
Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru.
Yn 1911, penderfynodd bwyllgor yn San Steffan fod Cymru yn dywysogaeth ac nid yn frenhiniaeth ac felly ni ddylid cynnwys arfau Cymru yn arfau y Deyrnas Unedig. Yn 1912, ychwanegyd arfbais Cymru i gymryd lle un Saxony ar safon "Tywysog Cymru".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tywysog Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.