Y Fenni: Tref yn Sir Fynwy

Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni (Saesneg: Abergavenny).

Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.

Y Fenni
Y Fenni: Hanes, Marchnadoedd, Diwylliant
Y Fenni: Hanes, Marchnadoedd, Diwylliant
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,078 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iÖstringen, Sarno, Canton Beaupréau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,032.5 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Wysg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8331°N 3.0172°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000775 Edit this on Wikidata
Cod OSSO295145 Edit this on Wikidata
Cod postNP7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)

Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).

Hanes

Gwreiddiau'r dref a'i henw

Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.

Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.

Cyfnod y Normaniaid

Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.

Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.

1300 i 1900

Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.

Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.

Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.

Hanes diweddarach

Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.

Marchnadoedd

Marchnad Wartheg

Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.

Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.

Y Neuadd Farchnad

Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.

Diwylliant

  • Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym 1838, 1913 ac yn 2016.
  • Ym 1968 cyhoeddwyd y gân "Abergavenny" gan Marty Wilde.
  • Mae gan y Fenni tair gefeilldref, sef Ostringen, Beaupreau a Sarno.
  • Ceir cyfeiriadau at y Fenni yn llyfrau Sherlock Holmes a Harry Potter.
  • Ymhlith aelodau cymdeithas Cymreigyddion y Fenni oedd yr hanesydd Carnhuanawc.
  • Ceir croes eglwysig o bwys gerllaw, sef Croes Eglwys St Issau.

Adeiladau a chofadeiladau

Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Fenni (pob oed) (10,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fenni) (948)
  
9.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fenni) (6946)
  
68.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Fenni) (1,997)
  
43.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gefeilldrefi

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Y Fenni HanesY Fenni MarchnadoeddY Fenni DiwylliantY Fenni Adeiladau a chofadeiladauY Fenni EnwogionY Fenni Cyfrifiad 2011Y Fenni GefeilldrefiY Fenni CyfeiriadauY Fenni Dolen allanolY FenniCastell YnysgynwraiddCymruCymuned (Cymru)LloegrNormaniaidRhufeinigSir FynwySwydd HenfforddTrefynwyY Mers

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Alexandria RileyGwledydd y bydCyfathrach rywiolHentaiHunan leddfuAffganistanRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrDiwrnod y LlyfrPessachY CwiltiaidRhestr afonydd CymruAwstralia1 MaiSbaenEwropCysgodau y Blynyddoedd GyntOrganau rhywBertsolaritzaFfilmHeledd CynwalHwngariRhestr AlbanwyrAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)LlythrenneddGenefaRwsiaidEmoções Sexuais De Um CavaloAfter EarthMET-ArtGalaeth y Llwybr LlaethogDaniel Jones (cyfansoddwr)CalsugnoGwyddoniadurChwyldroJohn Ceiriog HughesGronyn isatomigLlyfrgellYnysoedd y FalklandsIncwm sylfaenol cyffredinolLlanarmon Dyffryn CeiriogEthnogerddolegBeibl 15887fed ganrifIfan Gruffydd (digrifwr)DanegWhatsAppEfrog Newydd (talaith)BrysteSeattleBenjamin NetanyahuFfraincHarri Potter a Maen yr AthronyddY rhyngrwyd633George CookeDinas SalfordEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigLloegrXXXY (ffilm)Hen Wlad fy NhadauWalking TallFideo ar alwGirolamo SavonarolaPussy RiotY Rhyfel Byd CyntafGwainAlmaenegBirminghamLleiandy Llanllŷr🡆 More