Pentref yng nghymuned Ceiriog Uchaf, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
Saif ar lan Afon Ceiriog, ar ddiwedd ffordd y B4500, 5 milltir (8 km) i'r de-orllewin o Lyn Ceiriog a 10 milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn Etholaeth Cynulliad De Clwyd, ac yn Etholaeth Seneddol De Clwyd.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8862°N 3.2493°W |
Cod OS | SJ159328 |
Cod post | LL20 |
Saif dwy ywen nodedig ychydig fetrau o ddrws Eglwys Sant Garmon, sy'n enghreifftiau prin o bâr o yw; yn 1998 mesurwyd o gwmpas gwaelod y coed ac roedd yr ywen ar y chwith (wrth edrych ar yr eglwys) yn 25 troedfedd a'i phartner gwrywaidd ar y dde dros yn 25 troedfedd a hanner.
O ganol yr 16g tan 1974, llywodraethwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog gan sir weinyddol Dinbych. O 1895 tan 1935, roedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal wledig Llansilin, a gyfunwyd yn 1935 gydag ardal wledig Y Waun i greu ardal wledig Y Waun. Arhosodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal gwledig Y Waun o 1935 tan 1974.
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a cafodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei gynnwys o fewn ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Newidiwyd y trefn eto yn 1996, pan gafwyd wared o Glwyd ac Ardal Glyn Dŵr, daeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam, fel yma mae hi heddiw fyth.
Gweinyddir Llanarmon Dyffryn Ceiriog o fewn bwrdeistref sirol Wrecsam, awdurdod unedol a grewyd yn 1996. Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn etholaeth Dyffryn Ceiriog, ac mae genddi Gynghorwr annibynnol.
Ers 1999, mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi cael ei chynrychioli yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Ken Skates, Aelod Cynulliad De Clwyd y Blaid Lafur.
Ers 2015, cynrychiolwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Susan Elan Jones, Aelod Seneddol De Clwyd y Blaid Lafur.
Ganed y bardd nodweddiadol, John Ceiriog Hughes yn fferm Pen-y-Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn 1832, a treuliodd ei blentyndod yno.
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llanarmon Dyffryn Ceiriog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.