Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara).
Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Enghraifft o'r canlynol | iaith fyw, iaith |
---|---|
Math | Ieithoedd Basgaidd, Ieithoedd De Ewrop |
Label brodorol | Euskara |
Rhan o | langues régionales de France, iaith swyddogol, languages of Europe |
Yn cynnwys | Biscayan, Gipuzkoan dialect, Upper Navarrese, Navarro-Labourdin, Eastern Navarrese, tafodiaith Souletin, Alavese Basque, Salazarese, Standard Basque |
Rhagflaenydd | Hen Fasgeg |
Enw brodorol | Euskara |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | eu |
cod ISO 639-2 | baq, eus |
cod ISO 639-3 | eus |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
Rhanbarth | Gwlad y Basg |
System ysgrifennu | Yr wyddor Fasgeg, yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Euskaltzaindia |
Gwefan | http://www.euskaltzaindia.net |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.
Mae gramadeg y Fasgeg yn wahanol i ramadeg y Gymraeg a ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill mewn nifer o ffyrdd. O ran cyflyrau gramadegol, nid yw'r Fasgeg yn defnyddio'r system enwol-gwrthrychol - yn hytrach, mae'n defnyddio'r cyflwr absolutibo ar gyfer yr asiant gyda berfau cyflawn a gwrthrych berfau anghyflawn, a'r ergatibo ar gyfer goddrych berfau anghyflawn.
Ergatibo–absolutibo | Enwol–gwrthrychol | |
---|---|---|
A= asiant (goddrych) berf anghyflawn | ERG | ENWOL |
O= gwrthrych berf anghyflawn | ABS | GWRTHRYCHOL |
S= asiant berf anghyflawn | ABS | ENWOL |
Dyma enghraifft syml:
Berf cyflawn | Berf anghyflawn | |
---|---|---|
Basgeg | Martin etorri da. | Martinek txakur ikusi du. |
Cymraeg | Mae Martin wedi cyrraedd. | Gwelodd Martin gi. |
Sylwadau | Y cyflwr absolutibo yn Basgeg, y cyflwr enwol yn Gymraeg. | Yn y Fasgeg, rhaid ychwanegu -ek er mwyn dangos mai Martin yw'r goddrych, gan adael y gair txakur (ci) yn y cyflwr absolutibo. Yn y Gymraeg, rhaid treiglo'r gair "ci" yn feddal er mwyn dangos mai'r ci yw'r gwrthrych, gan adael y gair Martin yn y cyflwr enwol. |
Llafariad blaen | Llafariad canol | Llafariad cefn | |
---|---|---|---|
Llafariad agos | i /i/ | u /u/ | |
Llafariad canolig | e /e/ | o /o/ | |
Llafariad agored | a /a/ |
Gwefusol | Llafnol- Deintiol | Abigol- Alfeolaidd | Taflodol neu Ôl-daflodol | Felar | Glotol | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Trwynol | m /m/ | n /n/ | ñ, -in- /ɲ/ | ||||
Ffrwydrol | Di-lais | p /p/ | t /t/ | tt, -it- /c/ | k /k/ | ||
Lleisiol | b /b/ | d /d/ | dd, -id- /ɟ/ | g /ɡ/ | |||
Affrithiol | Di-lais | tz /t̪s̻/ | ts /t̺s̺/ | tx /tʃ/ | |||
Ffrithiol | Di-lais | f /f/ | z /s̻/ | s /s̺/ | x /ʃ/ | h /∅/, /h/ | |
fel arfer1 Lleisiol | j /j/~/x/ | ||||||
Ochrol | l /l/ | ll, -il- /ʎ/ | |||||
Rhotig | Crych | r-, -rr-, -r /r/ | |||||
Trawol | -r- /ɾ/ |
Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.
Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Basgeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.