Coedpoeth: Pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Coedpoeth neu Coed-poeth.

Mae'r pentref yng nghanol olion diwydiant cloddio mwynau megis plwm, haearn a glo llefydd fel Brymbo, Bersham a'r Mwynglawdd (Minera).

Coedpoeth
Coedpoeth: Pedair Cymuned, Yr enw, Enwogion
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,702 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd536.25 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0547°N 3.0742°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000894 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ285515 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).

Coedpoeth: Pedair Cymuned, Yr enw, Enwogion
Capel Rehoboth, Coedpoeth, sydd bellach wedi'i ddymchwel

Pedair Cymuned

Mae pedair rhan i'r Pentref:-

  • Y Nant yw'r hynaf o'r ardaloedd, sydd i'r gogledd o Afon Clywedog. Roedd llawer iawn o byllau-glo bach yn y rhan yma o'r pentref a chodwyd llawer o dai ar gyfer mwyngloddwyr calch, plwm a glo.
  • Mae'r Adwy yn ardal sy'n agos iawn i Glawdd Offa ac mae'r gair 'adwy' o bosib yn cyfeirio at fwlch yn y clawdd hwnnw. Mae'r Adwy yn ardal serth iawn, wrth i chi ddringo i fyny at y pentref sydd tua 795 troeddfedd uwch y môr. Yn yr Adwy roedd Capel anghydffurfiol cyntaf yr ardal sef Capel Adwy'r Clawdd (Methodistiaidd Calfinaidd).
  • Saif y Talwrn yn ardal ogleddol Coedpoeth, sydd i'r de o Afon Gwenfro sy'n llifo i lawr drwy Glanrafon at Wrecsam ac i Ddyfrdwy. Roedd yn y Talwrn nifer o byllau glo yn cynnwys 'Pwll Y Talwrn' a ddaeth i ben tua 1914.[angen ffynhonnell]
  • Y Smelt yw'r enw ar yr ardal lle roedd coed efallai yn cael eu llosgi i drin y plwm a'r haearn.

Mwyngloddiwyd plwm o weithfeydd plwm Y Mwynglawdd, gerllaw.

Yr enw

Defnyddiwyd yr enw (Coid Poch) yn gyntaf yn 1391 a'r sillafiad cyfoes yn 1412. Mae'n bosib fod yr enw "poeth" yn cyfeirio at yr arferiad o losgi pren i greu siarcol a arferid ei ddefnyddio yn y gweithfeydd haearn a phlwm gerllaw, ers dyddiau'r Rhufeiniaid neu o bosib yn cyfeirio at y clirio tir a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol er mwyn cyrraedd y mwynau.

Ceir yma nifer o strydoedd gydag enwau diddorol iddynt, gan gynnwys: Stryd Pen-y-Gelli, Heol y Fynwent, Ffordd Talwrn, Allt Tabor, Llys Rehoboth, Ffordd Smelt, Ffordd y Cynulliad, Lôn y Gegin, Pen y Palmant a Hen Ffordd y Mwynglawdd. Ceir hefyd Heol Caradog, Heol Offa sydd yn agos iawn at Glawdd Offa.

Enwogion

Coedpoeth: Pedair Cymuned, Yr enw, Enwogion 
Blwch post aur yn nodi bod Tom James wedi ennill medal aur yn Llundain 2012
  • Tom Carrington - Organydd, cyfansoddwr ac argraffwr. Fe oedd Trefnydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933. Roedd e'n organydd yng Nghapel Rehoboth, Coedpoeth, am tua 50 mlynedd.
  • Dewi Humphreys - Prifathro cyntaf Ysgol Bryn Tabor (Ysgol Gynradd Gymraeg; sef. 1967), Athro Ysgol Sul Capel Rehoboth, Coedpoeth. Aelod o Cantorion Coedpoeth (1962-1995) a Chôr Ieuenctid Coedpoeth (1947-1959). Hefyd sefydlodd Cangen Plaid Cymru yng Nghoedpoeth tua dechrau'r 1990au.
  • Tom James - Rhwyfwr rhwngwladol sy wedi ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.
  • Bu'r gantores Annie Lennox yn byw yn y pentref ym 1988 (am gyfnod byr).
  • Hefyd bu Ricky Tomlinson, yr actor, yn byw yma.
  • John Evans (glöwr)

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coedpoeth (pob oed) (4,702)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coedpoeth) (825)
  
18.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coedpoeth) (3612)
  
76.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Coedpoeth) (692)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Coedpoeth Pedair CymunedCoedpoeth Yr enwCoedpoeth EnwogionCoedpoeth Cyfrifiad 2011Coedpoeth CyfeiriadauCoedpoeth Dolen allanolCoedpoethBershamBrymboCymruCymuned (Cymru)GloHaearnPlwmWrecsam (sir)Y Mwynglawdd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

13 EbrillNovialHanes IndiaDeux-SèvresHolding HopeDrudwen fraith AsiaEsgobCwmwl OortDyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, NiwbwrchCodiadSafle cenhadolSiôr I, brenin Prydain FawrGwladoliHTTPIeithoedd BrythonaiddPont VizcayaKazan’Recordiau CambrianAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddMeilir GwyneddCytundeb KyotoFfuglen llawn cyffroKylian MbappéAffricaLene Theil SkovgaardJohn OgwenAlien (ffilm)MaleisiaAfon TyneDulynLlundainIndonesiaEwthanasiaDie Totale TherapieTsunamiWhatsAppGeiriadur Prifysgol CymruRhestr adar CymruMorlo YsgithrogY Deyrnas UnedigRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainFideo ar alwAnna MarekY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruPrwsiaTylluanNia ParryJac a Wil (deuawd)PidynY Maniffesto ComiwnyddolGuys and DollsAldous HuxleyCymraegY Ddraig GochSilwairSwedenFfilm gomediMyrddin ap DafyddNorwyaidTalwrn y BeirddKathleen Mary FerrierGwilym PrichardCymruNewid hinsawddMetro Moscfa🡆 More