Pentref bychan yng nhymuned De Maelor ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Llannerch Banna (Saesneg: Penley).
Gorwedd yn ardal Wrecsam Maelor, ar briffordd yr A539 tua hanner y ffordd rhwng Llangollen a'r Eglwys Wen. Saif bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ymddengys ei fod yn cymryd ei enw o Penda, brenin Mersia yn y 7g.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | De Maelor |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.95°N 2.88°W |
Cod OS | SJ414399 |
Gorwedd Llannerch Banna yn hen gwmwd Maelor Saesneg, ac roedd yn rhan o'r hen Sir y Fflint cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Mae yno ysgol gynradd, Ysgol Madras, ac ysgol uwchradd, Ysgol Maelor.
Mae'n fwyaf adnabyddus am yr Ysbyty Pwylaidd, a sefydlwyd wedi'r Ail Ryfel Byd ar gyfer cyn-filwyr Pwylaidd a'u teuluoedd. Tua dechrau'r 1950au roedd dros 2,000 o gleifion a staff yno, ond lleihaodd y nifer, a chaewyd yr ysbyty yn mis Mawrth 2002.
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llannerch Banna, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.