Ardal heb lawer o law yw anialwch (diffeithwch).
Ceir anialwch iâ a thwndra mewn ardaloedd oer, ac anialwch sych mewn ardaloedd poeth. Ceir anialwch sych mewn nifer o ardaloedd: mewn ardaloedd isdrofannol (e.e. Sahara, Gobi a Kalahari), mewn ardaloedd arfordirol (e.e. Atacama a Namib), mewn basnau mawr yn y mynyddoedd (e.e. y Great Basin), neu y tu hwnt i fynyddoedd. Mewn llawer ohonynt does dim ond tywod, cerrig neu halen.
Enghraifft o'r canlynol | bïom, tirffurf |
---|---|
Math | drylands, tirlun, ecosystem, habitat |
Rhan o | amgylchedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ychydig iawn o drigfannau a geir yn yr anialwch. Yn draddodiadol mae nifer o'i drigolion yn byw bywyd nomadaidd neu led-nomadaidd. Ond lle ceir dŵr ceir gwerddonau ffrwythlon ac mae'r enghreifftiau mwyaf ohonynt yn cynnal trefi a phentrefi pur sylweddol, yn arbennig yn y Sahara ac Anialwch Arabia.
Erbyn hyn mae diffeithdiro (desertification) yn broblem byd-eang. Oherwydd erydiad ac amaethyddiaeth gor-ddyfal, mae anialwch yn ehangu pob blwyddyn, yn bennaf yng ngogledd Affrica (y Sahel), ond hefyd yn ardaloedd eraill yn Affrica, canolbarth a de Asia, Awstralia, gogledd a de America a de Ewrop.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Anialwch, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.