Penrhyn sy'n gorwedd rhwng aber Afon Dyfrdwy ac Afon Merswy yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Cilgwri (Saesneg: The Wirral).
Tan yn ddiweddar roedd rhan orllewinol a deheuol Cilgwri yn rhan o Sir Gaer a'r rhan ddwyreiniol yn rhan o Lannau Merswy. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o Gilgwri yn cael ei gweinyddu gan Bwrdeistref Fetropolitan Cilgwri.
Math | gorynys, coedwig frenhinol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Môr Iwerddon, Afon Dyfrdwy, Afon Merswy |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3°W |
Mae'r rhan fwyaf o'r penrhyn yn dir isel, gwastad. Mae'r canolfannau diwydiannol yn cynnwys Penbedw (Birkenhead), Port Sunlight ac Ellesmere Port. Mae'r trefi eraill yn cynnwys Wallasey a New Brighton, Heswall a West Kirby.
Yn y chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen, 'Mwyalch Gilgwri' yw un o'r Anifeiliaid Hynaf yn y byd, ac mae'n cael ei holi gan Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Bedwyr ac Eidoel ble mae Mabon.
Ar ei ffordd i Ogledd Cymru mae Gawain, arwr Celtaidd y gerdd Saesneg Canol, Syr Gawayn and the Grene Knygt, yn pasio trwy Gilgwri sy'n cael ei disgrifio fel the wyldernesse of Wyrale (J. R. R. Tolkien (gol.), Sir Gawain and the Green Knight (Rhydychen, ail argraffiad 1967).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cilgwri, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.