Roedd Mikhail Sergeyevich Gorbachev (Rwsieg: Михаи́л Серге́евич Горбачёв; trawslythrennu: Michail Gorbatsiof) (2 Mawrth 1931 – 30 Awst 2022) yn wleidydd Rwsiaidd a fu am gyfnod yn arlywydd yr Undeb Sofietaidd.
Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Fe'i disgrifiwyd fel ffigwr byd pwysicaf chwarter olaf yr 20fed ganrif.
Михаил Сергеевич Горбачёв Mikhail Sergeyevich Gorbachev | |
| |
Arlywydd yr Undeb Sofietaidd | |
Cyfnod yn y swydd 15 Mawrth 1990 – 25 Rhagfyr 1991 | |
Is-Arlywydd(ion) | Gennady Yanayev |
---|---|
Olynydd | Boris Yeltsin (Arlywydd Rwsia) |
Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd | |
Cyfnod yn y swydd 11 Mawrth 1985 – 24 Awst 1991 | |
Rhagflaenydd | Konstantin Chernenko |
Olynydd | Vladimir Ivashko |
Geni | 2 Mawrth 1931 Stavropol, SFSR Rwsia |
Plaid wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1950-1991) |
Priod | Raisa Gorbachyova |
Llofnod |
Roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1985-1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o 1985 hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef perestroika ("ailstrwythuro") a glasnost ("bod yn agored"), yn elfennau amlwg yn y broses o ddod a'r Rhyfel Oer i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd, gan ei throi o fod yn wlad Gomiwnyddol ac at Gyfalafiaeth. Fe dderbyniodd Fedal Heddwch Otto Hahn yn 1989, Wobr Heddwch Nobel yn 1990 a Gwobr Harvey yn 1992.
Drwy ailstrwythuro'r Undeb Sofietaidd, diddymwyd grym y Blaid Gomiwnyddol o fewn cyfansoddiad y wlad; drwy gynlluniau Gorbachev newidiwyd ei rôl o fod yn un a oedd yn tra-arglwyddiaethu ac yn rheoli'r wladwriaeth gydag awenau tynn i greisis ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, ymchwydd gref o wrth-Gomiwnyddiaeth ac yna, fel penllanw i'r cyfan, diddymiad yr Undeb Sofietaidd. Mynegodd siom iddo fethu a gwneud hyn ond cadw'r hen CCCP (neu'r 'USSR') a dywedodd mai gwelliannau a diwygiadau oedd ei bolisïau a lwyddodd yn y diwedd er i rai geisio eu tanseilio a chymryd y clod oddi wrtho.
Fe'i ganed yn Stavropol Krai i deulu gwerinol, cyffredin o Wcrain-Rwsiaidd. Maria (ganwyd Gopkalo) a Sergey Gorbachev oedd ei rhieni. Yn hogyn ifanc arferai yrru peiriant cynaeafu gwair ar ffermydd cyfagos. Graddiodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Mosgow yn 1955, lle ymunodd gyda'r Blaid Gomiwnyddol. Cafodd ei ethol yn swyddog o Gymdeithas Talaith Stavropol yn 1970, ac yn Ysgrifennydd Cyntaf y mudiad cenedlaethol yn 1974 a'r Politburo erbyn 1979. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Politburo yn 1985, dair blynedd wedi marwolaeth Leonid Brezhnev.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mikhail Gorbachev, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.