GIG Cymru (Saesneg: NHS Wales) yw enw corfforaethol swyddogol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru; yr oedd yn rhan o'r un stwythur Gwasanaeth Iechyd Gwladol â Lloegr tan yn ddiweddar ond erbyn heddiw mae'n ddatganoledig dan ofal Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Ceir sawl ysbyty GIG yng Nghymru, yn ysbytai cyffredinol, cymunedol a lleol.
Crëwyd Byrddau Iechyd Lleol yn 2003 i gymryd lle'r hen Awdurdodau Iechyd. Mae ymddiriedolaethau iechyd Cymru yn gyfrifol am weinyddu ysbytai yn eu rhanbarth ynghyd â gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ceir 12 ymddiriedolaeth ranbarthol ynghyd ag un ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac un arall, Felindre [1] Archifwyd 2005-10-01 yn y Peiriant Wayback., ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol ar draws Cymru.
Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru:
3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Mae gan Gymru un ysbyty sy'n darparu hyfforddiant, sef Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae Comisiwn Iechyd Cymru [2] Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback. yn asiantaeth weithredol dan reolaeth Llywodraeth y Cynulliad sy'n trefnu gofal canolog arbenigol. Mae'n darparu yn ogystal gyngor am wasanaethau arbenigol i GIG Cymru.
Mae gwasanaeth NHS Direct ar gael yng Nghymru hefyd, sy'n cynnig cyngor i gleifion yn Gymraeg a Saesneg. Enw Cymraeg y gwasanaeth yw Galw Iechyd Cymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article GIG Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.