Yr Henfyd yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y Dadeni i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch y Môr Canoldir, o ddechrau'r dinasoedd cyntaf i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae'n cwmpasu y gwareiddiau cyntaf ym Mesopotamia a'r Hen Aifft, y Ffeniciaid, Groeg yr Henfyd, Carthago a nifer o wareiddiau eraill. Mae ei derfynau cronolegol a daearyddol braidd yn amwys ond gellid ei ddiffinio ymhellach fel y byd oedd yn adnabyddus i'r Groegiaid hynafol a'r Rhufeiniaid. Roedd hynny'n cynnwys rhannau helaeth o Orllewin Ewrop, basn y Môr Canoldir gan gynnwys de Ewrop, Gwlad Groeg a'i hynysoedd, Asia Leiaf, Persia, y Dwyrain Canol, Yr Aifft a Gogledd Affrica. Enwau eraill ag ystyr gyffelyb a ddefnyddir yw 'Y Byd Hynafol', 'Yr Henfyd Clasurol' ac 'Y Byd Clasurol' (tueddir i ddefnyddio'r gair Clasurol am y cyfnod pan oedd Groeg a Rhufain yn eu hanterth).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Henfyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.