Mae'r term Gorllewin Ewrop fel mae pobl yn ei ddeall yn gyffredin yn gysyniad gwleidyddol-gymdeithasol sy'n hanu o ddyddiau'r Rhyfel Oer.
Diffiniwyd ffiniau Gorllewin Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth i gynnwys pob gwlad Ewropeaidd nad oeddent wedi eu mediannu gan y Fyddin Sofietaidd ac fel canlyniad na ddaethant dan reolaeth llywodraethau comiwnyddol.
Heddiw, mae gan y term Gorllewin Ewrop llai i'w wneud â gwleidyddiaeth a daearyddiaeth y Rhyfel Oer a mwy i'w wneud ag economeg. Mae'r cysyniad yn cael ei gyfeillachu'n gyffredin â democratiaeth ryddfrydol, cyfalafiaeth ac hefyd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwledydd yn rhannu diwylliant Gorllewinol, ac mae gan llawer ohonont rwymau economaidd a gwleidyddol gyda Gogledd a De America ac Oceania.
Fel arall, mae Gorllewin Ewrop hefyd yn isranbarth daearyddol o Ewrop sydd yn fwy cyfyng na'r ddirnadaeth draddodiadol wleidyddol; fel mae'n cael ei ddiffinio gan y Cenhedloedd Unedig, mae'n cynnwys y naw gwlad canlynol:
Y tro cynharaf a wyddys lle mae gorllewin a dwyrain Ewrop yn cael eu gwahaniaethu yw cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Wrth i'r ymerodraeth dyfu a goresgyn gwledydd newydd fe ddaeth yn rhanedig rhwng pobloedd trefol Groeg eu hiaith y gwledydd dwyreiniol oedd gynt yn rhan o Ymerodraeth Macedonia, a gwledydd mwy cyntefig y gorllewin lle roedd y Lladin wedi dod yn brif iaith gyffredin. Arweiniodd yr hollt ddiwylliannol at raniad gwleidyddol. Parhaodd y rhaniad yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Gorllewinol, blodeuo'r Ymerodraeth Ffrancaidd, a'r Sgism Fawr yn yr Eglwys Gristnogol i ffurfio sail diffinio Gorllewin a Dwyrain yn y cyd-destun Ewropeaidd tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gorllewin Ewrop, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.