Gall Llychlyn neu Sgandinafia gyfeirio naill ai at benrhyn Llychlyn, sef y gorynys o gyfandir Ewrop sy'n cynnwys mwyafrif tiroedd Norwy a Sweden, neu'r rhanbarth o Ewrop sy'n cynnwys penrhyn Llychlyn ynghyd â phenrhyn Jutland.
O ganlyniad, i fod yn fanwl gywir, dim ond Norwy, Sweden a Denmarc sy'n wledydd Llychlynnaidd.
Serch hyn, fe gyfeirir at y gwledydd Nordig fel Llychlyn yn aml iawn. Mae'r gwledydd Nordaidd yn cynnwys Norwy, Sweden, Denmarc, Gwlad yr Iâ, y Ffindir ynghyd â'u holl drefedigaethau. Weithiau, fe gynhwysir y gwledydd Baltaidd, yn enwedig Estonia, yn y diffiniad ehangach yma o Llychlyn, o ganlyniad i gysylltiadau ieithyddol a diwylliannol rhwng y Ffindir ac Estonia.
Nid yw llawer o drigolion Norwy, Sweden a Denmarc yn cytuno gydag unrhyw ddiffiniad o Llychlyn heblaw am yr un cyfyng sy'n cyfeirio at y tair gwlad yn unig.
Cynrychiolir y gwledydd yn y Cyngor Nordig sy'n cynnwys gwledydd Llychlyn a hefyd tiriogaethau tu hwnt ond sy'n rhannu iaith, traddodiad a hanes tebyg, megis Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe, a'r Ynys Las.
Ceir hefyd Undeb Kalmar a gynrychiolodd gyfnod yn yr Oesoedd Canol hwyr pan oedd Llychlyn wedi ei huno.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llychlyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.