Band punk rock ffeministaidd o Foscow ydy Pussy Riot.
Mae'r grŵp yn sgwennu ei enw efo llythrennau Lladin a chaiff hynny ei gopio gan y Wasg yn Rwsia. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn Awst 2011 ac mae oddeutu 12 aelod, pob un yn gwisgo balaclafa lliwgar ac yn defnyddio llysenwau yn hytrach nag enwau go iawn.
Pussy Riot | |
---|---|
Saith aelod y band Pussy Riot | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Moscow, Rwsia |
Math o Gerddoriaeth | Punk rock, anarchiaeth |
Cyfnod perfformio | 2011 | –present
Label | Dim |
Gwefan | pussy-riot.livejournal.com |
Fel arfer maen nhw'n trefnu gigs byr fyfyr, heb gyhoeddusrwydd ymlaen llaw: gigiau profoclyd gan dynnu coes gwleidyddion megis y Prif Weinidog Vladimir Putin. Cynhelir y gigs yn aml mewn lleoliadau anghyffredin, llefydd fel Lobnoye Mesto yn y Sgwâr Coch neu ar dop bws neu dram neu ar sgaffold. Golygir y perfformiadau hyn ganddynt a'i bostio ar y we.
Ar 21 Chwefror 2012, perfformiodd pump aelod o'r grŵp yr hyn a alwant yn "weddi'r pync" ("punk Prayer"), mewn eglwys yng nghanol Moscow, sef Eglwys Gadeiriol Crist yr Achubwr. Camodd swyddogion yr eglwys ymlaen i'w hatal rhag gorffen y gig, ond erbyn fin nos roedd aelodau'r grŵp wedi golygu'r fideo a'i alw'n “O, Fam Crist, rho Putin dan Glo!”. Yn y gân roeddent yn sarhau Putin a phennaeth yr Eglwys Uniongred yn Rwsia (Kirill I).
Ar 3 Mawrth arestiwyd dau aelod o'r grŵp: Nadezhda Tolokonnikova a Maria Alyokhina ar gyhuddiad o hwliganiaeth. Arestiwyd trydydd aelod ar y 15fed: Yekaterina Samutsevich.
Fe'u cadwyd yn y ddalfa tan ddiwedd Gorffennaf pan roddwyd hwy ar brawf; daeth cyhoeddusrwydd byd-eang i'r achos hwn. Ar 21 Awst dedfrydwyd y tair merch i ddwy flynedd yr un o garchar.
Yn ôl llefarydd ar ran y BBC, roedd barn cryf ledled y byd fod y ddedfryd yn rhy uchel, yn rhy drwm. Credir fod dau aelod arall o'r grŵp wedi cymryd y goes a'i heglu hi o'r wlad, rhag ofn iddynt hwythau gael eu rhoi ar brawf. Edrychir ar y dair arall gan nifer o fudiadau fel carcharorion gwleidyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pussy Riot, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.