Actores a chantores o Gymraes yw Olwen Eluned Rees (ganwyd 8 Rhagfyr 1945).
Olwen Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr |
Mam | Sassie Rees |
Priod | Johnny Tudor |
Ganwyd Olwen Rees yng Nghaernarfon yn ferch i Sassie Rees, cantores oedd yn ymddangos ar raglenni radio i blant yn y 1950au a 1960au. Fe astudiodd drama a cherddoriaeth yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl blwyddyn yn dysgu yn Llandudno dilynodd Olwen ôl-traed ei mam drwy ddod yn actores a chantores broffesiynol.
Mae hi'n briod a'r actor a chantor Johnny Tudor.
Mae wedi ymddangos yn nifer o gynyrchiadau Cymraeg ar gyfer y BBC a S4C yn cynnwys Y Stafell Ddirgel, Y Rhandir Mwyn, Gwen Tomos a Y Wisg Sidan. Yn Saesneg mae wedi cymryd rhan yn rhaglenni teledu Tartuffe, Strife, Sticky Wicket, Lloyd George a Dylan i'r BBC a Fallen Hero ar gyfer Granada. Yn fwy diweddar mae wedi ymddangos fel Mrs Hargreaves yn Doctors a Nerys, y fam annifyr yn My Family.
Rhwng 2003 a 2014 roedd yn chwarae rhan Lena yn y sebon i bobl ifanc Rownd a Rownd. Fe chwaraeodd ran Muriel yng nghyfres Porthpenwaig a Beti Morris yng nghyfres cyntaf y ddrama 35 Diwrnod.
Mae hi'n aelod sylfaen o gwmni Theatr Pena ac yn gadeirydd y bwrdd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Olwen Rees, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.