Ysgyfaint: Organ anadlu mewn anifail

Prif organau system resbiradu'r corff yw'r ysgyfaint (neu ar lafar: sgyfaint), sy'n galluogi pobl ac anifeiliaid eraill i anadlu.

O fewn mamaliaid a fertebratau eraill, lleolir dwy ran yr ysgyfaint ger yr asgwrn cefn - o boptu'r galon. Eu pwrpas yw tynnu (neu 'echdynnu') ocsigen o'r atmosffer a'i basio ymlaen i lif y gwaed yn y corff. AR yr un pryd caiff y carbon deuocsid ei ryddhau yn ôl i'r atmosffer; gellir disgrifio hyn fel proses o gyfnewid nwyon. Caiff y symudiadau sy'n galluogi i'r anadlu hyn ddigwydd ei reoli gan gyhyrau. Mewn llawer o anifeiliaid y prif gyhyr yw y llengig. yr ysgyfaint hefyd sy'n galluogi anifeiliaid i wneud synnau gwahanol e.e. siarad, udo, mewian a brefu.

Ysgyfaint: Organ anadlu mewn anifail

Mae gan fodau dynol ddwy ysgyfaint: y chwith a'r dde. yn Gymraeg defnyddir y gair ysgyfant weithiau am un rhan. Maent wedi eu lleoli yg ngwactod y thoracs yn y fron. Mae'r ysgyfaint dde yn fwy na'r chwith, gan fod yr ysgyfaint chwith yn rhannu lle gyda'r galon. Gyda'i gilydd mae'r ddwy ysgyfaint yn pwyso 1.3 kg. Maen nhw'n ffurfio rhan isaf y pibellau anadlu sy'n cychwyn yn y trachea ac yn canghenu i'r bronci a'r bronciolau (neu fronciolynnau) ac sy'n derbyn aer i fewn. Mae'r 'canghennau' hyn yn parhau i rannu a lleihau nes bod yr aer yn cyrraedd alfeoli meicrosgopig, ble mae'r broses o gyfnewid nwyon yn digwydd. Gyda'i gilydd mae'r ysgyfaint yn cynnwys 2,400 cilometr (1,500 mi) o bibelli a 300 - 500 o alfeoli.

O amgylch yr ysgyfaint ceir sach eisbilennol sy'n caniatáu i'r waliau mewnol a'r waliau allanol i lithro yn erbyn ei gilydd wrth i'r anifail anadlu heb fawr o ffrithiant. Mae'r sach yma nid yn unig yn cwmpasu'r ddwy ran ond hefyd yn rhannu pob ysgyfaint yn llabedau (lobes). Ceir 3 llabed yn y sgyfaint dde a dwy yn y sgyfaint chwith. Rhennir y llabedau hyn yn segmentau a llabedynnau (lobules). Daw cyflenwad unigryw o waed i'r ysgyfaint.

Gweler hefyd


Bioleg | Anatomeg | System resbiradu

Trwyn | Ffaryncs | Corn gwddf | Pibell wynt | Ysgyfaint

Ysgyfaint: Organ anadlu mewn anifail  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am ysgyfaint
yn Wiciadur.

Tags:

Asgwrn cefnAtmosffer y DdaearBod dynolCalonCarbon deuocsidDiaffram y thoracsFertebratMamalNwyOcsigenSystem resbiradu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Reggae14 GorffennafNiwrowyddoniaethBreaking AwayThe Jeremy Kyle ShowY Cynghrair ArabaiddDiffyg ar yr haulSpynjBob PantsgwârDrônYnys ElbaYr Eglwys Gatholig RufeinigAnimeiddioEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997Charlie & BootsRhylCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonSands of Iwo JimaMwstardMehandi Ban Gai KhoonFuerteventuraSodiwmGallia CisalpinaRhyw Ddrwg yn y CawsEdward Morus Jones1696John PrescottDavid MillarMy MistressMesonYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonHaikuVery Bad ThingsRobert RecordeBasbousaNever Mind the BuzzcocksReal Life CamRhufainPorth YchainFelony – Ein Moment kann alles verändernPeiriant Wayback210auCrogaddurnCalifforniaMarianne EhrenströmThe Witches of BreastwickPOW/MIA Americanaidd yn FietnamY Byd ArabaiddGroeg (iaith)MichelangeloGareth BaleEr cof am KellyProtonMailShïaThe Lord of the RingsUnicodeLlawysgrif goliwiedigSpring SilkwormsPab Ioan Pawl IGwyddoniadurGolffSystem weithreduThe New SeekersFfrwydrad Ysbyty al-AhliAlldafliadTeisen siocledTwitterWashington (talaith)GorilaYr ArianninHafan🡆 More