Mae Jess Davies (ganwyd 11 Ebrill 1993) yn fodel Cymreig o Aberystwyth sydd wedi ymddangos ar glawr cylchgronau fel Zoo, Nuts ac FHM.
Jess Davies | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1993 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | model |
Adnabyddus am | model |
Yng Ngorffennaf 2015 darlledodd S4C raglen arni o'r enw Jess y Model a Tudalen Tri'. Erbyn 2015 ymddangosodd ar galedr Hot Shots. Ym mis Medi, 2017 roedd hi ar raglen gan S4C yn dathlu Merched y Wawr yn 50 oed lle dywedodd hi y basa hi'n ymuno gyda Merched y Wawr pan mae hi'n hun.
Astudiodd Gymdeithaseg ym Mhrifysgol Morgannwg, lle'r ysgrifennodd draethawd hir ar 'Rywioli merched yn y cyfryngau' (sexualisation of women in the media). Mewn cyfweliad gyda'r BBC dywedodd "Roedd hi'n anodd rhannu fy amser rhwng modelu a'r brifysgol. Weithiau roedd rhaid i fi droi lawr swyddi modelu achos roedd gen i draethodau i'w gwneud, ond mae e yn bosibl."
Yn 2010 cystadleuodd hi yn Miss Cymru ond doedd hi ddim yn llwyddiannus; fodd bynnag cafodd sawl contract a gwaith yn dilyn hynny. Mae hi'n ystyried symud i'r LA er mwyn datblygu ei gyrfa.
Yn 2017 roedd ganddi fusnes dillad nofio a ioga ac roedd yn byw yng Nghaerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jess Davies, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.