Actores a chantores o Gymraes yw Sue Roderick (ganwyd 1955).
Mae'n adnabyddus am chwarae Lucy Cartwright yn y ffilm gwlt Twin Town, Cassie Morris ym Mhobol y Cwm a dwy gymeriad yn Coronation Street.
Sue Roderick | |
---|---|
Ganwyd | Susan Broderick 1955 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ganwyd Susan Broderick ym Mangor a'i magu ym Mhorthmadog. Roedd yn canu ers yn ferch ifanc a bu'n perfformio gyda Treflyn Jones yn y ddeuawd 'Treflyn a Siwsan'. Perfformiodd ar Disc a Dawn pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Yn 14 oed aeth am glyweliad gyda Wilbert Lloyd Roberts yng Nghwmni Theatr Cymru. Roedd yn rhy ifanc i ddechrau gweithio ond cafodd gynnig gwersi canu gyda Betty, gwraig Wilbert. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth yn ôl i weithio gyda Cwmni Theatr Cymru.
Yn 1987 perfformiodd ar y rhaglen Codi Pais (HTV Cymru ar gyfer S4C), rhaglen adloniant yn cynnwys sgetsus a chaneuon. Roedd y rhaglen yn torri tir newydd ar gyfer merched mewn comedi drwy gyfuno doniau Sue, Siw Hughes, Gillian Elisa ac Eirlys Parri.
Roedd yn un o brif actorion y ffilm Hedd Wyn yn chwarae Lizzie Roberts ac ymddangosodd yn Twin Town yn chwarae Lucy Cartwright. Yn y 1990au ymddangosodd yn y ddrama Y Palmant Aur cyn ymuno â chast Pobol y Cwm i chwarae Cassie Morris, oedd yn berchen y Deri Arms gyda'i gŵr Teg. Wedi gadael yr opera sebon yn 2003, ail-ymunodd â Pobol y Cwm ar ddiwedd 2018 gyda stori am wasgaru llwch Mrs Mac.
Rhwng 2016 a 2018 bu'n chwarae yr athrawes Llywela yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref.
Roedd yn briod gyda Quentin Annis ac mae ganddynt ferch, yr actores, dramodydd a chyfarwyddwraig Mêlisa Annis. Roedd hefyd yn briod a'r cyfarwyddwr Paul Turner.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sue Roderick, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.