Ffilm Gymreig o 2015 yw Dan y Wenallt (Saesneg: Under Milk Wood) wedi ei seilio ar Under Milk Wood gan Dylan Thomas.
Fe'i addaswyd a chyfarwyddwyd gan Kevin Allen. Adroddwr y stori yw Rhys Ifans. Dewiswyd y ffilm fel cynnig gwledydd Prydain ar gyfer Ffilm Iaith Dramor Orau ar gyfer Gwobrau'r Academi yn 2016 ond ni chafodd ei enwebu.
Dan y Wenallt | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | Kevin Allen |
Awdur (on) | Kevin Allen Dylan Thomas |
Yn serennu | Rhys Ifans |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 87 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Cymraeg Saesneg |
Cynhyrchiad 2015 o Dan y Wenallt (gyda Rhys Ifans a Charlotte Church) oedd yr addasiad ffilm gyntaf y ddrama ers y ffilm o 1972 (a serennodd Elizabeth Taylor ac Richard Burton).
Ffilmiwyd y fersiwn newydd yn bennaf ym mhentref Solfach, Sir benfro yn ystod Haf 2014. Saethwyd dwy fersiwn o'r ffilm, un yn Saesneg (a elwir yn Under Milk Wood) a'r llall yn Gymraeg. Cynigiwyd Dan y Wenallt ar gyfer gyfer Ffilm Iaith Dramor Orau ar gyfer Oscars 2016.
Cafodd y ffilm ei ddangos am y tro cyntaf yn gyd-amserol yng Nghaerdydd ac yn Theatr Gwaun yn Abergwaun, cyn deithio o amgylch Cymru ym mis Rhagfyr 2014 fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Thomas. Cafodd ei ddangosiad swyddogol cyntaf yn y DU ym mis Mehefin 2015 yn Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.
Ar wefan adolygu Rotten Tomatoes, mae gan y ffilm sgôr cymeradwyaeth o 33% yn seiliedig ar 18 adolygiadau, gyda sgôr cyfartalog o 5.1/10.
Yn adolygiad papur newydd The Independent, mae'n dweud ei fod yn dangos " tremendous visual imagination in places and has plenty of ghoulishness, scabrous humour and eroticism along the way" ac "doesn't hold back on depicting the grotesquerie of the Wales that Dylan Thomas evoked". Mae llais Rhys Ifans' yn "calmer and more measured than Burton's mercurial, intensely dramatic rendition" ac ei fod mwy neu lai yn clymu "dozens of surrealistic tableau-like scenes". Mae'n rhoi tri allan o bum seren i'r ffilm.
Rhoddidd y Daily Mirror tri allan o bum seren i'r ffilm hefyd, er ei ddisgrifio fel "methiant bonheddig " lle mae'r cyfarwyddwr yn "deploys no end of visual tricks to match Thomas’s lyricism – a glaring palette, soft focusing and even a camera seemingly mounted on the back of a mouse – but the tricks distract as much as they divert".
Mae adolygiad y cylchgrawn Variety yn tynnu sylw at y ffaith nad yw hiwmor y ddrama wreiddiol wedi parhau'n addas i'r cyfnod a fod perfformiadau y cast yn "obscured by the film’s florid visual style and fruity versification", tra fyddai'r cast Cymreig a fersiwn Cymreig yn "cyfyngu ei apêl tu allan i Gymru" ac yn "minor status as a local curiosity".
Disgrifiodd Screen Daily y ffilm fel "sticky mess of sexual urges and intrigue, ...which clouds Thomas’ work rather than clarifies it" gyda'r elfen weledol "frequently distracting and sometimes outright unpleasant".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dan y Wenallt (ffilm 2015), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.