Meddalwedd cyfathrebu sy'n eiddo i Microsoft yw Skype (neu weithiau Sgeip).
Mae'n galluogi defnyddwyr i gyfathrebu â'i gilydd drwy feicroffon, gwe-gamera, a negeseua sydyn ar y Rhyngrwyd.
Datblygwr | Microsoft Skype Division |
---|---|
Rhyddhad cychwynnol | Awst 2003 |
Iaith rhaglennu | Embarcadero Delphi, Objective-C (iOS, Mac OS X), C++ gyda Qt (Linux) |
system weithredu | iOS, Windows XP, Windows Vista, Windows 7, Windows 8, Mac OS X, Windows Phone, Blackberry OS, HP WebOS, Symbian, Android a Linux |
Cyfieithu parod | Nifer o ieithoedd |
Math | Voice over IP, negeseua sydyn, fideo gynhadledd |
Trwydded | Meddalwedd, gydag ychwanegiadau tâl |
Gwefan | skype.com |
Rhyddhawyd gyntaf yn 2003 gan y datblygwyr Ahti Heinla, Priit Kasesalu, a Jaan Tallinn, o Estonia, a chafodd ei brynu gan Microsoft yn 2011 am $8.5 biliwn. Heddiw lleolir pencadlys Skype yn Lwcsembwrg ond lleolir y rhan fwyaf o'r tîm datblygu a 44% o'r holl weithwyr yn Tallinn a Tartu, Estonia.
Yn 2010 roedd gan Skype 663 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig.
Er nad yw'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd sydd ar gael yn y fersiwn swyddogol, mae Microsoft wedi ei gwneud hi'n bosib i addasu iaith y rhyngwyneb oddi fewn i'r rhaglen. Yn Hydref 2013, cyhoeddwyd ffeil rhyngwyneb Cymraeg i Skype ar Windows gan Aled Powell. Mae'r ffeil ar gael i'w lawrlwytho am ddim ac yn cael ei diweddaru wrth i fersiynau newydd o Skype gael ei rhyddhau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Skype, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.