Rhadwedd

Mae rhadwedd (Saesneg: freeware) yn feddalwedd, sy'n cael ei dosbarthu heb unrhyw gost ariannol i'r defnyddiwr terfynol e.e.

Skype ac Adobe Acrobat Reader.

Rhadwedd
Enghraifft o radwedd: Adobe Acrobat Reader

Nid oes set o hawliau cyffredinol, trwydded na EULA (end-user license agreement) a gytunwyd arnynt sy'n diffinio rhadwedd, felly mae pob cyhoeddwr yn diffinio ei reolau ei hun ar gyfer y rhadwedd y mae'n ei gynnig. Mae rhai cyhoeddwyr yn caniatáu addasu ac ailddosbarthu'r feddalwedd gan drydydd parti, heb ganiatâd yr awdur, ond mae eraill yn gwahardd hyn.

Yn wahanol i feddalwedd ffynhonnell-agored, rhydd, sydd hefyd yn gallu cael ei dosbarthu am ddim, fel arfer ni fydd y cod ffynhonnell ar gyfer rhadwedd ar gael. Mae'n bosibl y bydd rhadwedd yn fanteisiol i'r cwmni neu'r person a'i creodd drwy annog gwerthiant fersiwn gwell, fel yn y modelau busnes a elwir ynfreemium a rhanwedd (shareware).

Yn y byd cyhoeddi traddodiadol, efallai mai'r hyn sy'n cyfateb orau i radwedd yw taflen a rennir yng nghanol y dref i ddenu cwsmer i siop datŵ: mae'r ffurflen bapur ei hun am ddim, ond nid yw'r hawl gennych i'w gopio na chyfrinach gwneuthuriad y papur na'r inc.

Hanes

Ymddangosodd y cysyniad yma'n gyntaf yn y 1980au cynnar; cofnodir y gair Saesneg yn 1892 gan Andrew Fluegelman wrth iddo fynd ati i geisio marchnata rhaglen o'r enw PC-Talk. gan Andrew Fluegelman. Ar y cychwyn, cyn dyfodiad y we, rhennid y feddalwedd ar ddisg hyblyg 5 1/4 modf ac yna 3.5 modf a oedd yn cael eu rhannu am ddim gyda chylchgronnau cyfrifiadurol, i hybu gwerthiant. Yn wahanol i'r byd cyhoeddi lle rhoed gwaharddiad ar atgynhyrchu, roedd gwneuthurwr y rhaglen yn annog pobl i gopio'r gwaith a'i rannu ymhellach. Yn y 1990au, gyda dyfodiad y modem a'r BBS (bulletin board systems), gellid lawrlwytho rhaglenni a gemau syml fel Apogee Software (a adnabyddid hefyd fel 3D Realms), Epic MegaGames (enw cyfoes: Epic Games), Ambrosia Software ac id Software.

Mathau

Defnyddir y termau canlynol yn yr iaith y cawsant eu bathu'n gyntaf:

  • Adware
  • Demoware
  • Crippleware
  • Trialware
  • Donationware
  • Nagware
  • Freemium

Cyfeiriadau

Tags:

MeddalweddSkype

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Safleoedd rhywDuGwamThe Color of MoneyPwylegGwybodaethVladimir PutinY Mynydd BychanTîm pêl-droed cenedlaethol CymruY CeltiaidQuella Età MaliziosaDinas GazaY Deyrnas UnedigWiciadurThe Principles of LustGwladwriaeth IslamaiddMoliannwnSefydliad WicifryngauSiccin 2Arfon WynBwcaréstComin WicimediaCeredigionGogledd IwerddonBBC Radio CymruAutumn in MarchCarles PuigdemontNargisGina GersonGwyddoniadurTywysog CymruRhyfelYr AlmaenY RhegiadurYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaSimon BowerSex TapeJimmy WalesJess DaviesGwenallt Llwyd IfanIsabel IceRhestr blodauMinorca, LouisianaBronnoethYr wyddor LadinChalis KarodComo Vai, Vai Bem?CaeredinRhestr dyddiau'r flwyddynOlwen ReesMuscatAneurin BevanCaer Bentir y Penrhyn DuGwobr Ffiseg NobelYouTubeAneirin KaradogDafadSystem weithreduThe Times of IndiaRhyfel Annibyniaeth America🡆 More