Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon.
Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.
Tuaisceart Éireann Northern Ireland | |
Arwyddair | Quis separabit? |
---|---|
Math | gwledydd y Deyrnas Unedig, tiriogaeth dramor gyfannol, gwlad ddi-sofran, gwlad |
Prifddinas | Belffast |
Poblogaeth | 1,852,168 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC±00:00, Europe/Belfast, UTC+01:00 |
Nawddsant | Sant Padrig |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Gwyddeleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Iwerddon |
Arwynebedd | 14,130 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.6075°N 6.6925°W |
Cod SYG | N92000002 |
GB-NIR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Gogledd Iwerddon |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gogledd Iwerddon |
Arian | punt sterling |
Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.
Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - 'Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."
Mae enw'r rhanbarth ei hun ac rhai enwau lleoedd o'i fewn yn bwnc dadleuol. Mae llawer yn dibynnu ar safbwyntiau gwleidyddol. Yr enghraifft enwocaf efallai yw dinas Derry/Londonderry, gyda'r ffurf Derry (Saesneg) neu Doire/Doire Cholm Chille (Gwyddeleg) yn cael ei defnyddio gan genedlaetholwyr Gwyddelig a Londonderry gan yr Unoliaethwyr.
'Gogledd Iwerddon' yw'r enw swyddogol ond mae nifer o Unoliaethwyr yn a'u cefnogwyr yn dal i defnyddio'r enw Ulster (Ulaidh). Ar y llaw arall, mae cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr yn tueddu i gyfeirio at y rhanbarth fel 'Y Gogledd' (The North/North of Ireland) neu'r 'Chwe Sir' (Six Counties.
Defnyddir sawl term gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gyfeirio at Ogledd Iwerddon:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gogledd Iwerddon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.